Byddwch yn barod
am argyfwng
Rhestr wirio ar gyfer pecyn argyfwng
- share this page by email
- share this page on Facebook, opens in a new tab
- share this page on X (Twitter), opens in a new tab
- share this on Linked In, opens in a new tab
Pa un a oes rhaid ichi aros y tu mewn neu fynd allan, bydd creu pecyn argyfwng bach yn eich helpu i ddod drwy’r argyfwng. Dylech ei gadw mewn lle diogel yn eich cartref, lle gallwch ei gyrraedd yn hawdd. Dylech gadw eich pecyn mewn bag sy’n gwrthsefyll dŵr, a’r deg peth pwysicaf i’w cynnwys yw:
- Cynllun argyfwng eich cartref, gan gynnwys rhifau ffôn cyswllt mewn argyfwng
- Tortsh batris gyda batris sbâr, neu dortsh weindio
- Pecyn cymorth cyntaf
- Dogfennau pwysig fel tystysgrifau geni a pholisïau yswiriant
- Dŵr potel a bwyd sy’n barod i’w fwyta na fydd yn troi. Paciwch agorwr tuniau os oes angen.
- Allweddi sbâr eich cartref a’ch car
- Sbectol neu lensys cyffwrdd sbâr
- Nwyddau ymolchi a manylion am feddyginiaethau pwysig
- Pensel a phapur, cyllell boced, chwiban
- Cyflenwadau anifeiliaid anwes
Os oes rhaid ichi adael eich cartref, a bod amser i’w casglu’n ddiogel, dylech hefyd feddwl am fynd â’r canlynol:
- Meddyginiaethau hanfodol
- Ffôn symudol a gwefrydd
- Arian parod a chardiau credyd
- Dillad sbâr a blancedi
- Anifeiliaid anwes
- Gemau, llyfrau, tegan arbennig plentyn
Os yw’r argyfwng yn golygu nad yw’n ddiogel mynd allan, y cyngor fel arfer yw:
Mynd i mewn, aros i mewn, tiwno i mewn.
Ewch i mewn a chau’r holl ffenestri a drysau a tiwnio i mewn i’r orsaf radio leol, y teledu neu’r rhyngrwyd, lle bydd gwybodaeth i’r cyhoedd a chyngor gan yr ymatebwyr brys yn cael ei darlledu.

Bagiau tywod
Bydd y Cyngor yn ymdrechu i ddefnyddio bagiau tywod i eiddo y tybir eu bod mewn perygl o gael eu heffeithio gan ddŵr llifogydd. Bydd dosbarthu bagiau tywod yn unol â'r blaenoriaethau isod a'r adnoddau sydd ar gael ar y pryd, ac ar yr amod ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
- Atal colli bywyd neu anaf difrifol
- Amddiffyn poblogaethau bregus
- Diogelu eiddo preswyl gydag amlyncu dŵr i'r eiddo (blaenoriaeth i bobl fregus)
Ni ellir darparu bagiau tywod ymlaen llaw i eiddo a busnesau unigol.
Am resymau diogelwch, ni fydd hawl gan berchnogion busnes/eiddo neu aelodau o'r cyhoedd gasglu bagiau tywod yn uniongyrchol o unrhyw un o ddepos cyngor.
Bydd gwaredu bagiau tywod a ddefnyddir yn gyfrifoldeb perchennog y cartref neu'r busnes.
Rydym yn deall bod llawer o gymunedau wedi’u heffeithio’n sylweddol gan lifogydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ewch i’n tudalen Adfer Llifogydd am ragor o wybodaeth a chymorth.

Colli Cyfleustodau
- share this page by email
- share this page on Facebook, opens in a new tab
- share this page on X (Twitter), opens in a new tab
- share this on Linked In, opens in a new tab
el arfer mae colli cyflenwad trydan a cholli cyfleustodau eraill yn digwydd yn sydyn heb fawr o rybudd. Er bod gan gwmnïau cyfleustodau yng Nghymru gynlluniau sydd wedi profi'n drylwyr i ddelio â hyn, gallwn ni i gyd gymryd camau syml er mwyn sicrhau ein bod yn fwy parod am gyfnod byr heb drydan, nwy neu'r prif gyflenwadau dŵr.
- Bydd pecyn argyfwng sydd wedi'i stocio'n dda yn y cartref yn eich helpu chi hyd nes y bydd pethau'n dod yn ôl i drefn.
- Bydd radio batris yn eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad â'r newyddion yn dilyn colli cyflenwad trydan.
- Cadwch ffonau symudol, cyfrifiaduron côl neu lechi wedi'u gwefru'n llawn er mwyn i chi o leiaf gael pŵer batri am gyfnod byr mewn achos o golli cyflenwad pŵer.
- Bydd ffôn llinell dir sydd heb fod yn gysylltiedig â'r prif gyflenwad trydan yn eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad yn ystod unrhyw darfu i'ch cyflenwad pŵer.
- Gwnewch restr o'r holl rifau ffôn a allai fod eu hangen arnoch a chadwch nhw wrth law.
Mae'r cwmnïau cyfleustodau yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod unrhyw darfu o ran gwasanaeth arferol. Dylech roi gwybod i'ch cyflenwr os oes gennych anabledd neu os oes gennych salwch cronig neu os ydych yn dibynnu ar gyflenwad di-dor o bŵer ar gyfer offer meddygol neu offer symudedd megis lifftiau grisiau a theclynnau codi.
Yn ogystal, dylech gysylltu â'ch cyflenwr os ydych â nam ar y golwg neu os ydych yn cael anawsterau clywed neu os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth neu os oes gennych ofynion penodol eraill. Os oes gennych berthnasau neu gymdogion oedrannus a allai fod angen cymorth mewn achos o golli pŵer, cofiwch fynd i weld eu bod yn ymdopi. Mae rhagor o gymorth a chyngor ar gael gan eich cyflenwyr nwy, trydan, dŵr a gwasanaethau cyfathrebu.

Y gofrestr risgiau cymunedol

Mae'n ofyniad statudol o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 i ystyried y tebygolrwydd y bydd amrywiaeth o beryglon yn digwydd yn ardal Heddlu Dyfed-Powys a'u heffeithiau. Yn amlwg, mae argyfyngau yn rhywbeth rydym i gyd yn gobeithio eu hosgoi ond petai argyfwng yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin, rydym eisiau bod mor barod ag y gallwn ni fod.
Er mwyn ein helpu ni i benderfynu ble ddylem ni ganolbwyntio'n hymdrechion o ran cynlluniau argyfwng, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i asesu'r risgiau posibl i'n Sir. Caiff pwysigrwydd yr asesiadau risg ei bwysleisio gan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004. Fel rhan o'r Ddeddf Argyfyngau Sifil, mae'n ofyniad statudol i ystyried y tebygolrwydd y bydd amrywiaeth o beryglon yn digwydd yn ardal Heddlu Dyfed-Powys a'u heffeithiau.
Mae'r gwaith hwn yn broses barhaus. Bydd yr asesiadau risg sydd wedi'u cynnwys ar y gofrestr ond yn cynnwys digwyddiadau sydd heb fod yn faleisus (h.y. peryglon) yn hytrach na bygythiadau (h.y. digwyddiadau'n ymwneud â therfysgwyr).
Mae sefyllfaoedd peryglus posibl a thebygol sy'n cael eu hystyried yn cynnwys, er enghraifft:
- Damweiniau Trafnidiaeth
- Tywydd difrifol
- Llifogydd
- Damweiniau diwydiannol a llygredd amgylcheddol
- Iechyd Dynol
- Iechyd Anifeiliaid
- Methiant technegol diwydiannol
Nid proses ddigyfnewid yw asesiad risg ac mae'n destun adolygiad parhaus. Trwy gynnwys peryglon neu senarios, nid yw'n golygu bod Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn credu y bydd y risg yn digwydd nac ychwaith petai yn digwydd y byddai ar y raddfa honno. Yn hytrach, rhagdybiaethau rhesymol am y sefyllfa waethaf posibl yw’r senarios risg ac mae’r asesiad risg yn seiliedig ar y rhain.
Lawrlwythiadau: