Chwarel Ffinant
Strategaeth Rheoli'r Perygl o Lifogydd
Materion Llifogydd Blaenorol
Bu hanes hir o broblemau llifogydd yn gysylltiedig â'r cwlfer sy'n rhedeg trwy Chwarel Ffinant yng Nghastellnewydd Emlyn. Roedd arolygon cyflwr yn dangos ei fod mewn cyflwr gwael iawn gyda rhwystrau a risg uchel o'r cwlfer cwympo yn cael eu hystyried yn debygol mewn rhai lleoliadau ar ei hyd. Pe bai'r cwlfer yn cwympo byddai dŵr wyneb yn cael ei orfodi allan, ac yn llifo i lawr y ffordd tuag at ganol y dref gan roi hyd at 50 o gartrefi a busnesau mewn perygl o lifogydd.
Y Cynllun Lliniaru Llifogydd
Gellir rhannu'r cynllun yn 5 elfen:
- Cloddio rhannau o’r cwlfer concrit sydd wedi’u difrodi a chwympo a'u gwneud yn ddiogel.
- Gosod tua 120m o rannau cwlfer HDPE 900mm newydd ac ôl-lenwi.
- Ail-leinio tua 30m o'r bibell bresennol.
- Adeiladu tyllau mynediad a seilwaith cysylltiedig.
- Adfer tirwedd a Chynnydd Net mewn plannu Bioamrywiaeth
Daeth y gwaith adeiladau i ben ym mis Tachwedd 2023..
________________________________________
Budd
Mae'r cynllun wedi uwchraddio a disodli system cwlfer dŵr wyneb oedd yn heneiddio, a oedd mewn perygl o fethiant trychinebus ac o ganlyniad fyddai’n achosi llifogydd i seilwaith priffyrdd lleol ac eiddo lleol.
Mae hyn wedi darparu lefel uwch o ddiogelwch rhag llifogydd i hyd at 50 eiddo preswyl a busnes yn nhref farchnad brysur Castellnewydd Emlyn, yn ogystal â lleihau llifogydd ar y priffyrdd lleol.
Mae darparu gwell pwyntiau mynediad ar gyfer cynnal a chadw wedi tawelu pryderon iechyd a diogelwch.

Cyllid
Cost y gwaith gwella oedd cyfanswm o tua £650,000.
Darparwyd y cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.