Gwirio cyflwr byd natur yn y sir a sut gallwn ni helpu
Sefyllfa Byd Natur
Mae adroddiadau ar Sefyllfa Byd Natur ar gyfer y DU a Chymru wedi cael eu cyhoeddi yn 2023.
Mae fersiwn hefyd wedi ei pharatoi gan Bartneriaeth Natur Sir Gâr ar gyfer y sir (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).
Mae'n seiliedig ar ddata/gwybodaeth o ystod o ffynonellau/arbenigedd ac mae'n rhoi trosolwg o'r prif benawdau ac argymhellion ar gyfer ein cynefinoedd a'n rhywogaethau blaenoriaeth a geir yn Sir Gaerfyrddin a'r bygythiadau sy'n eu hwynebu.
Mae dogfen gryno yn yr adran dogfennau i'w lawrlwytho isod, ynghyd â syniadau os ydych yn ysgol, yn gymuned, yn unigolyn neu'n fusnes.
Mae bioamrywiaeth yn dirywio, gyda chyfraddau colled a difodiant yn ddigynsail yn hanes dyn ac yn cyflymu fel yr adroddwyd yn WWF (2020) Adroddiad Planed Fyw 2020.
Mae Cymru a gweddill y DU bellach ymysg y gwledydd mwyaf prin eu natur ar y Ddaear.
Canfu adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023 fod 18% o'r rhywogaethau (1 o bob 6) a aseswyd ar drengi, gan gynnwys rhywogaethau fel Llygoden Bengron y Dŵr, y Gylfinir a'r Eog.
Mae nifer unigolion y rhywogaethau a aseswyd wedi gostwng 20% ar gyfartaledd.
Fodd bynnag, mae rhai rhywogaethau wedi dangos cynnydd ar gyfartaledd, e.e. mae rhai rhywogaethau ystlumod ar gynnydd yn sgil rhoi mwy o amddiffyniad i'w mannau clwydo.
Mae dosbarthiad (lleoliad daearyddol) rhywogaethau yng Nghymru hefyd wedi newid oherwydd llu o ffactorau ond mae newid hinsawdd yn un allweddol.
Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod y tueddiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn Sir Gaerfyrddin.
Ffynhonnell graffig credyd

Sir Gaerfyrddin - gwasanaethau cynefinoedd ac ecosystemau naturiol
Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i amrywiaeth o gynefinoedd lled-naturiol, o'r ucheldir yn y gogledd a'r dwyrain, i'r glaswelltiroedd, afonydd, coetiroedd a gwlyptiroedd yn yr iseldir, hyd at yr arfordir yn y de.
Cwm Llanllawddog
Tir fferm o'r Mynydd Du
Glaswelltir
Llyn Llech Owain
Morfa heli Talacharn
Llystyfiant Graean
Mae ein tirweddau amaethyddol yn cefnogi rhwydweithiau cysylltu pwysig o wrychoedd, coetir, cyrsiau dŵr, ac ati. Mae'r brithwaith hwn o gynefinoedd cysylltiedig ar draws y sir yn un o'r rhesymau pam mae bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin wedi bod mor gyfoethog.
Yn ogystal â'i werth cynhenid, mae bywyd gwyllt a chynefinoedd yn darparu 'gwasanaethau ecosystem' pwysig sydd o fudd i bob un ohonom, e.e. atal llifogydd, storio carbon. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu i ni i gyd, yn rhad ac am ddim, bob dydd.
Bygythiadau a phwysau
Mae bygythiadau lleol i fywyd gwyllt Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu llawer o dueddiadau cenedlaethol, megis colli a darnio cynefinoedd, pwysau o ganlyniad i ddatblygu, rheolaeth amhriodol, cyflwyno rhywogaethau anfrodorol ac effaith newid hinsawdd.
Cam cadarnhaol
Mae cannoedd o unigolion a llawer o sefydliadau yn helpu bywyd gwyllt Sir Gaerfyrddin. Maent yn gwneud ymdrech i roi budd i gadwraeth bywyd gwyllt mewn ystod o ffyrdd gwahanol, megis gwirfoddoli, nodi, monitro, codi ymwybyddiaeth ac ymgymryd â gwaith cadwraeth ymarferol ar y tir.

Er mwyn cefnogi adferiad natur a gwytnwch ecolegol, mae angen i ni sicrhau bod ardaloedd a rhwydweithiau o gynefinoedd yn fwy neu'n fwy helaeth, wedi'u cysylltu'n well ac mewn gwell cyflwr i gefnogi bioamrywiaeth.
Mae Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn yn rhwydweithiau o gynefinoedd mewn cyflwr ecolegol da sy'n cysylltu safleoedd gwarchodedig a mannau eraill sy'n ymwneud â bioamrywiaeth.
Mae angen i ni ystyried sut y gall Sir Gaerfyrddin ymateb i darged Llywodraeth Cymru o ddiogelu o leiaf 30% o'r tir a 30% o'r môr erbyn 2030.
Mae gwaith cadarnhaol eisoes yn cael ei wneud gan gynnwys ffermio mewn modd cydnaws â natur, adfer mawndir, rheoli glaswelltir a phlannu coetiroedd newydd mewn ardaloedd priodol.
Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur yn rhyng-gysylltiedig. Mae angen integreiddio gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd â gweithredu ynghylch bioamrywiaeth. Ni allwch ddatrys y naill heb ddatrys y llall.
Mae ecosystemau a reolir yn dda fel arfer yn atafaelu mwy o garbon na'r rhai sydd mewn cyflwr gwael, yn ogystal â darparu amrywiaeth o wasanaethau ecosystem eraill ar yr un pryd.
Mae angen inni fod yn ymwybodol o gynigion ar gyfer newid yn yr hinsawdd sy’n gwaethygu’r argyfwng natur megis plannu coed ar gynefinoedd sy’n cynnal bioamrywiaeth, ac sydd eisoes yn storio carbon. Mae angen i unrhyw ateb fynd i'r afael â'r ddau argyfwng, a pheidio â gwaethygu ychwaith.
Mae llawer nad ydym yn ei wybod am rai rhywogaethau sy'n ei gwneud yn anodd i ni nodi ac adrodd yn hyderus ar y newidiadau mewn bioamrywiaeth dros amser.
Cymhlethdod – mae’r cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n rhan o amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yn gymhleth ac yn rhyngberthynol. Mae'n rhaid i ni ystyried ystod o atebion a syniadau dyfeisgar i wella gwytnwch y cynefinoedd yr ydym yn eu rheoli.
Clychau'r gog
Blaen brigyn
Coch y berllan
Gem Bres Loyw
Bibyddion y Tywod (W. Parry)
Plu'r gweunydd
Adar y to
Chwilen hirgorn ddu a melyn
Chwilen y traeth
Brig-far flodeuog
Rydym yn gweithio’n well gyda’n gilydd
Mae’n rhaid i sector amgylcheddol Sir Gaerfyrddin barhau i gydweithio. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd, rhannu syniadau, gwybodaeth a barn arbenigol.
Ffermio a natur – amaethyddiaeth sy'n cyfrif am oddeutu 80% o'r defnydd tir yn Sir Gaerfyrddin. Gall rheoli tir mewn ffordd gynaliadwy gefnogi'r broses o greu a gwella rhwydweithiau ecolegol gwydn.
Hyd yn oed ar adegau o ansicrwydd economaidd, rhaid i wariant ar yr amgylchedd fod yn flaenoriaeth uchel ar yr agenda wleidyddol, mae'n opsiwn "buddsoddi i arbed," gan atal colledion pellach na ellir eu gwrthdroi ac a fydd yn y pen draw yn effeithio ar ecosystemau ac arnom ni hefyd.
Mae'n rhaid i ni feithrin ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â'r amgylchedd naturiol - o unigolion i dirfeddianwyr a rheolwyr, sector busnes i'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau.
Mae cyfoeth o arbenigedd a grym pobl yn ein rhwydweithiau gwirfoddol.
Rhaid i gyrff cyhoeddus fod yn barod i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, a blaenoriaethu darparu seilwaith glas a gwyrdd a fydd yn creu rhwydweithiau ecolegol, yn darparu atebion sy'n seiliedig ar natur, yn fuddiol i gymunedau, ac yn rhoi datblygu cynaliadwy a meddwl yn wyrdd wrth wraidd penderfyniadau lleol.
Dyma rai syniadau am sut gallwch weithredu’n gadarnhaol yn lleol er bioamrywiaeth, gyda dolenni i wybodaeth ddefnyddiol a fydd yn rhoi rhagor o syniadau a gwybodaeth i chi.