Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
Diweddarwyd y dudalen ar: 15/01/2025
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o fathau o gynefinoedd yng Nghymru y maen nhw’n eu hystyried yn arwyddocaol iawn ar gyfer cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth y wlad. Mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i ofalu am a chyfoethogi’r cynefinoedd hyn [Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016].
Yn Sir Gaerfyrddin mae gennym lawer o’r cynefinoedd blaenoriaeth hyn – mae rhai’n gyffredin ac eraill yn fwy prin. Mae ein ‘hecosystemau’, e.e. coetiroedd, afonydd a phorfeydd yn rhoi inni fanteision o bob math megis bwyd, dŵr ac awyr lân. Maent hefyd yn dylanwadu ar hunaniaeth ddiwylliannol Sir Gaerfyrddin, yn cyfrannu at ein hiechyd meddyliol a chorfforol ac yn helpu ein hysbrydoli a’n haddysgu.
Mae nifer o fudiadau yn gweithio yn y sir i ofalu am a chyfoethogi’r cynefinoedd hyn. Os yw’r cynefinoedd hyn yn mynd i ffynnu, mae’n rhaid i fudiadau ac unigolion weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth - gan gynnwys tir berchnogion, asiantaethau llywodraeth, grwpiau cadwraeth bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiant.
Hoffech chi wybod mwy? Lawrlwythwch wybodaeth fanylach am ein cynefinoedd â blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Arfordirol.pdf (677KB, pdf)
- Cynefinoedd coetir (923KB, pdf)
- Cynefinoedd dwr croyw (606KB, pdf)
- Cynefinoedd glaswelltir a gweundir yr iseldir (1010KB, pdf)
- Cynefinoedd gwlyptir (1MB, pdf)
- Cynefinoedd tir fferm (437KB, pdf)
- Cynefinoedd ucheldir (668KB, pdf)
- Tir llwyd, gerddi a mannau agored trefol (686KB, pdf)
- Bywyd Gwyllt Safle Morol Ewropeaidd Bae a Morydau Caerfyrddin (660KB, pdf)
- Morol (585KB, pdf)
- Safle Morol Ewropeaidd Bae a Morydau Caerfyrddin (604KB, pdf)