Rhywogaethau a chynefinoedd
a warchodir
Gwarchod ystlumod mewn adeiladau a choed
Gall ystlumod fod yn bresennol mewn unrhyw adeilad neu ofod yn y to yn Sir Gaerfyrddin. Efallai nad ydych wedi sylwi ar bresenoldeb ystlumod – maent yn aml yn clwydo mewn mannau bychain, craciau, ac agennau yn y to, y tu ôl i fyrddau tywydd, wynebfyrddau a theils ac mewn bylchau yn y waliau. Mae rhai rhywogaethau o ystlumod wedi prinhau'n sylweddol. Yn ogystal â cholli cynefinoedd lle maent yn bwydo, mae colli neu ddifrodi safleoedd clwydo yn ffactor mawr yn eu dirywiad. Mae Ffelt Toi Bitwmen Math 1F yn ddiogel i ystlumod oherwydd gallant fynd yn sownd a methu â rhyddhau eu hunain os oes Bilen To Anadladwy yn bresennol.
Mae 17 rhywogaeth o ystlumod yn y DU ac mae o leiaf 10 ohonynt i'w gweld yn Sir Gaerfyrddin. Mae pob ystlum yn rhoi genedigaeth unwaith y flwyddyn, yn gynnar yn yr haf, ac mae'r menywod yn tueddu i ymgynnull mewn clwydfan gymunedol i roi genedigaeth a magu eu rhai bach. Dyma pryd maen nhw fwyaf tebygol o gael eu gweld yn defnyddio adeiladau. Erbyn diwedd yr haf mae'r mannau clwydo hyn yn wag yn gyffredinol. Yn y gaeaf maent yn gaeafgysgu ac yn byw oddi ar y braster corff sy'n cael ei storio yn ystod yr hydref.
Mae holl ystlumod Prydain yn cael eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) ac maent hefyd wedi’u diogelu o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’i diwygiwyd). Mae'n drosedd dal, anafu neu ladd Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop yn fwriadol neu ddifrodi neu ddinistrio'n fwriadol safle bridio neu fan gorffwys (clwydfan) anifail o'r fath neu rwystro mynediad. Mae clwydfan yn cael ei diogelu p'un ai yw ystlumod yn bresennol ar y pryd ai peidio. Byddai ‘difrod’ yn cynnwys gweithrediadau fel trin coed mewn mannau clwydo. Mae hefyd yn drosedd aflonyddu’n fwriadol ar ystlum a allai effeithio’n sylweddol ar ei allu i oroesi neu ar ddosbarthiad lleol neu helaethrwydd y rhywogaeth honno.
Mae ystlumod hefyd yn clwydo mewn coed a chaiff coed eu trin yn yr un ffordd ag adeiladau mewn perthynas ag ystlumod.
Ystlumod a'r system gynllunio
Mae presenoldeb rhywogaeth a warchodir yn ystyriaeth berthnasol pan fo awdurdod cynllunio lleol yn ystyried cynnig datblygu a fyddai, o’i weithredu, yn debygol o achosi aflonyddwch neu niwed i’r rhywogaeth neu ei chynefin. Mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol hefyd ddyletswydd i roi sylw i rywogaethau a warchodir fel bod yn rhaid ystyried unrhyw effeithiau arnynt cyn gynted â phosibl yn y broses gynllunio.
Cynnal arolwg ystlumod
Rhaid ymchwilio i bresenoldeb ystlumod yn ystod y cam cais cyn-gynllunio. Mae angen gwybodaeth am yr arolwg i helpu i lywio'r broses ymgeisio a nodi pa fesurau lliniaru a all fod yn angenrheidiol. Rhaid i hyn gael ei wneud gan ecolegydd ystlumod trwyddedig a chymwys. Ni ddylech gynnal yr arolwg eich hun gan nad yw hyn yn cael ei gefnogi gan ganllawiau cyfredol ac ni fydd yn cael ei dderbyn.
Mae ystlumod i'w gweld yn y lleoliadau canlynol:
- Gallai unrhyw adeilad gynnwys ystlumod, er enghraifft mewn to gwag, atigau, topiau waliau, rhwng ffelt to a theils, bylchau bach yn y waliau, o dan fondos / bondeoau, ac ati.
- Mae ystlumod i’w gweld yn aml mewn ysguboriau ac adeiladau traddodiadol eraill gan gynnwys eglwysi, capeli, adeiladau rhestredig, ac ati
- Coed mewn geudodau, rhisgl yn fflawio, rhwygiadau a/neu holltau agored
- Strwythurau tanddaearol e.e. twneli, mwyngloddiau, seleri, tai iâ.
- Pontydd
Gellir dod o hyd i ystlumod mewn mannau eraill nad ydynt wedi'u rhestri uchod. Er enghraifft, bydd ystlumod lleiaf yn meddiannu strwythurau adeiledig eraill a hyd yn oed adeiladau newydd. Dylai perchennog y tŷ, y datblygwyr, a’r rhai sy’n gweithredu ar eu rhan, fod yn ymwybodol bod tarfu ar unrhyw safle clwydo neu achosi niwed i ystlum neu ystlumod yn drosedd.
Pe bai’r cynnig yn effeithio ar ystlumod, mae’n bosibl y bydd angen trwydded i wneud y gwaith gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Go brin y mae presenoldeb ystlumod yn atal datblygiad, ond rhaid cymryd mesurau digonol i sicrhau nad oes effaith andwyol ar ystlumod.. Go brin y mae presenoldeb ystlumod yn atal datblygiad, ond rhaid cymryd mesurau digonol i sicrhau nad oes effaith andwyol ar ystlumod. Os canfyddir ystlumod ar ôl i'r datblygiad ddechrau, rhaid dod â'r gwaith i ben a chysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru ar unwaith.

Gwarchod adar a thylluanod sy'n nythu
Caiff pob aderyn ei warchod yn gyfreithiol yn ystod ei gyfnod bridio - mae maint y warchodaeth gyfreithiol yn dibynnu ar y rhywogaeth. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am yr amddiffyniad a roddir i adar sy’n nythu, sut y gallwch osgoi tarfu arnynt oherwydd eich datblygiad ac awgrymiadau ar sut y gallwch integreiddio safleoedd nythu i’ch gwaith, a all helpu rhai o’n hadar sydd fwyaf dan fygythiad.
Mae holl adar Prydain, eu nythod a’u hwyau (gyda rhai eithriadau cyfyngedig) wedi’u diogelu gan y gyfraith o dan Adran 1 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Mae'n drosedd cyflawni'r gweithredoedd canlynol:
- lladd, anafu neu fynd ag aderyn gwyllt,
- dwyn, difrodi neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt tra bo’r nyth hwnnw’n cael ei ddefnyddio neu’n cael ei adeiladu,
- dinistrio neu fynd ag wy unrhyw aderyn gwyllt
Mae amseroedd bridio yn dibynnu ar y math o aderyn a ble maen nhw. Mae’r rhan fwyaf o adar yn dechrau nythu ddechrau mis Mawrth, er y gall y dylluan wen nythu mor gynnar â mis Chwefror ac nid yw gwenoliaid yn dechrau tan fis Ebrill fel arfer. Gall rhai mathau o adar roi genedigaeth i fwy nag un nythaid o gywion bob blwyddyn. Mae'r cywion olaf fel arfer yn gadael y nyth tua diwedd Awst / Medi.
Peidiwch â dechrau ar eich gwaith adeiladu yn ystod y tymor bridio adar (Chwefror/Mawrth i Awst/Medi). Mae’n bosibl y bydd gan rai adar ail neu hyd yn oed drydedd nythaid felly gwnewch yn siŵr nad yw’r nyth yn cael ei feddiannu unwaith y bydd y cywion wedi magu plu. Pan fydd y gwaith adeiladu wedi dechrau nid yw adar yn debygol o geisio nythu yn yr adeilad.
Mae adar sy'n nythu mewn perthi a choed yn llawer anoddach eu gweld. I osgoi eu niweidio ac o bosibl dorri’r gyfraith, dim ond gwaith fel torri, tocio neu blygu gwrychoedd y tu allan i’r prif dymor magu adar y dylid ei wneud, hynny yw nid rhwng Chwefror / Mawrth ac Awst / Medi. Os oes angen i chi wneud gwaith brys am resymau diogelwch, holwch ecolegydd a all roi cyngor.
Mae gwenoliaid y bondo, gwenoliaid duon a gwenoliaid yn debygol iawn o fridio mewn adeiladau neu arnynt. Mae gwenoliaid y bondo fel arfer yn nythu o dan y bondo; mae'n well gan wenoliaid mynediad i'r tu mewn i'r ysgubor/adeilad allanol, i nythu ar silff neu drawst. Bydd gwenoliaid duon yn defnyddio ceudodau yn y to a'r waliau. Yn anffodus, dengys arolygon diweddar fod gostyngiad sylweddol yn y tair rhywogaeth ac mae colli safleoedd nythu addas yn un o’r achosion dros eu dirywiad. Gellir sicrhau mynediad i gyfleoedd nythu addas yn yr adeilad trwy ddefnyddio, er enghraifft, strwythurau a blychau nythu artiffisial, blychau adar integredig, silffoedd pren, neu blatfformau a hyd yn oed mynediad i'r gofod to i'r dylluan wen.
Mae gan dylluanod gwyn a rhai adar eraill amddiffyniad cyfreithiol ychwanegol – maent wedi’u gwarchod yn ‘arbennig’ o dan Atodlen 1 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Yn ogystal â'r amddiffyniad safonol a restrir uchod mae hefyd yn drosedd tarfu arnynt yn fwriadol neu'n fyrbwyll tra byddant mewn nyth, ar nyth neu'n agos at un sy'n cynnwys wyau neu gywion, neu darfu ar eu cywion dibynnol. Gallai aflonyddwch gynnwys gwneud sŵn ychwanegol neu rywun yn gweithio ger mynedfa’r nyth, yn ogystal â rhywun yn dynesu at y nyth yn bwrpasol. Un o brif achosion y dirywiad mewn tylluanod gwyn yw colli safleoedd nythu, gall darparu safleoedd nythu artiffisial ar ysguboriau ac adeiladau allanol neu’n agos atynt fod o gymorth mawr. Ystyriwch hefyd adael/creu ardal o laswelltir garw i ddarparu tir hela i'r tylluanod. Argymhellir eich bod yn cynnal arolwg proffesiynol yn achos presenoldeb tylluanod.
Bydd ceisiadau a gyflwynir heb arolwg ystlumod / tylluanod gwyn yn destun argymhelliad i'w gwrthod oherwydd diffyg gwybodaeth sylweddol am ystyriaeth berthnasol.

Cynefinoedd â Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyhoeddi rhestr o’r mathau o gynefinoedd yng Nghymru, a elwir yn Gynefinoedd Adran 7, y maent yn eu hystyried yn allweddol bwysig i gynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i gynnal a gwella’r cynefinoedd hyn o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae llawer o'r cynefinoedd blaenoriaeth hyn yn Sir Gaerfyrddin – mae rhai yn gyffredin ac eraill yn brinnach. Mae’r ecosystemau hyn, er enghraifft coetiroedd, afonydd a glaswelltiroedd yn darparu amrywiaeth o fanteision i ni fel bwyd, dŵr, ac aer glân. Maent hefyd yn dylanwadu ar hunaniaeth ddiwylliannol Sir Gaerfyrddin, yn cyfrannu at ein hiechyd meddwl a chorfforol, ac yn helpu i'n hysbrydoli a'n haddysgu.
Rhaid hefyd ystyried cynefinoedd â blaenoriaeth mewn unrhyw ddatblygiad a bydd ecolegydd yn cynnal Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol i ganfod pa gynefinoedd sydd ar y safle.
Hoffech chi wybod mwy? Lawrlwythwch wybodaeth fanylach am ein cynefinoedd â blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin.