Sut y gallai targedau maetholion newydd effeithio ar eich datblygiad
Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein pryderon am yr effaith ar ddatblygu a'r angen i gael ateb cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd wedi cymryd y camau rhagweithiol canlynol:
- Rydym wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion fesul dalgylch ar gyfer afonydd Tywi, Teifi a Chleddau. Mae'r byrddau hyn yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun Rheoli Maetholion i wella cyflwr yr afon ac i hwyluso datblygiad. Mae rhagor o fanylion am y Bwrdd, gan gynnwys tudalen we sy'n dangos diweddariadau byw ar gael yma.
- Rydym wedi creu Cyfrifiannell Gorllewin Cymru i helpu datblygwyr i gyfrif faint o faetholion fydd eu datblygiad yn eu cynhyrchu. Yn ymarferol, bydd y defnydd o'r gyfrifiannell yn cwmpasu tair sir (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Cheredigion) a dalgylchoedd afonydd (Tywi, Cleddau a Teifi). Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cyfrifiannell Cymru Gyfan cyn hir.
- Rydym wedi llunio Canllawiau Lliniaru cynhwysfawr sy'n esbonio'r mathau mwyaf effeithiol o liniaru y gellid eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin.
- I gydnabod yr arweinyddiaeth rydym wedi'i dangos yn Sir Gaerfyrddin, cawsom wahoddiad i'r Gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022 gan Brif Weinidog Cymru yn y Sioe Fawr. Ym mis Mawrth 2023, amlygwyd ymhellach yn y ail Gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad a fynychwyd eto gan gynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol, yr angen am Gynllun Gweithredu Llygredd Afon, ac am ddatblygu atebion ar frys. Cynhaliwyd y drydedd Gynhadledd Trafod Llygredd maetholion ym mis Tachwedd 2023, a'r bedwaredd ym mis Mawrth 2024.
- Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio Datganiad Tir Cyffredin (SoCG) i fynd i'r afael â'r angen am gydweithio y tu hwnt i ffiniau dalgylchoedd Awdurdod Lleol. Mae natur draws-sirol dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) afonol yn golygu bod angen cydweithredu rhwng Awdurdodau Lleol, CNC, DCWW a PCBB i fynd i’r afael â’r angen deddfwriaethol am niwtraliaeth neu welliant maethol.
- Mae'r Strategaeth Niwtraliaeth Maetholion wedi'i llunio. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod yr angen am ddatblygu strategaeth i gyflenwi Niwtraliaeth Maetholion yn nalgylch Afon Teifi, a'i phwysigrwydd, sy’n hwyluso’r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ac yn nodi dull cyfannol o gyflwyno buddion ehangach, gan ganolbwyntio’n benodol ar NbS a gwelliannau amgylcheddol ehangach o fewn ACA Afon Tywi.
- Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadeirio ac yn gweithio'n rhagweithiol gyda Grwpiau Cyngor Technegol y Byrddau Rheoli Maetholion. Mae'r rhain yn cynnwys y Gweithgor Amaethyddol, y Gweithgor Gwyddoniaeth Dinasyddion a'r Gweithgor Monitro. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag unrhyw un o'r grwpiau hyn, cysylltwch â crichards@sirgar.gov.uk neu lecarrington@sirgar.gov.uk
- Mae cynllun gweithredu Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi cynllun arfaethedig i gyflawni'r gofynion lliniaru ffosffad strategol yn Dalgylchoedd Ardal Cadwraeth Arbennig Teifi a Tywi er mwyn darparu ar gyfer y twf a gynllunnir yn y CDLl diwygiedig. Mae'r ddogfen yn ddiweddariad i'r Cynllun Gweithredu Interim (IAP) a luniwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ym Mis Mawrth 2023.
- Rydym yn llunio prosiect i weithio gyda'n ffermwyr tenant a'u cefnogi i nodi cyfleoedd i roi mesurau lliniaru maetholion ar waith ar eu tir. Bydd hyn yn galluogi cyfnod pontio o’r gwaelod i fyny dan arweiniad ffermwyr i amaethyddiaeth adfywiol, gyda chanlyniad elw a gwytnwch hirdymor.
- Rydym wedi creu taflen gryno ar gyfer defnyddwyr tir amaethyddol i symleiddio strategaethau lliniaru i gamau cyflym a nodi ffynonellau cyllido.
- Rydym yn cefnogi ystod eang o grwpiau o werin wyddonwyr ar draws y tri dalgylch afon o ran cynllunio prosiect ac allbynnau prosiect, casglu data a phrosesu data. Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd!
- Roeddem yn gyfrifol am y prosiect monitro ansawdd dŵr llwyddiannus yn afon Teifi, sydd wedi cael ei arwain a'i gyflwyno gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae hyn bellach wedi ehangu i gynnwys offer Monitro Prifysgol Aberystwyth, offer monitro CNC a'r gobaith yw denu capasiti monitro pellach.