Talu anfoneb gan y cyngor neu fil y dreth gyngor
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/10/2025
Mae talu anfoneb gan y cyngor yn gyflym ac yn hawdd. Gallwn gynnig sawl dull diogel ar gyfer eich anghenion:
Y ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu.
- Dewiswch o dri dyddiad talu ar gyfer y dreth gyngor: 5ed, 15fed neu 28ain o bob mis.
- Dewiswch dalu eich anfoneb gan y cyngor ar 1af o bob mis.
- Mae'r taliadau'n uniongyrchol ac wedi'u diogelu gan y Warant Debyd Uniongyrchol.
- Nid oes angen adnewyddu bob blwyddyn (oni bai eich bod yn symud cyfeiriad o ran y dreth gyngor)
Sefydlu'ch Debyd Uniongyrchol:
Trwy alwad ffôn: Ffôn: 01267 228730
Bydd angen rhif anfoneb arnoch i dalu anfoneb, rhif cyfrif y dreth gyngor i dalu bil y dreth gyngor ynghyd â manylion banc.
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. Mae hon yn system dalu awtomataidd 24 awr.
Bydd angen i chi gael y canlynol wrth law cyn i chi ffonio:
- Rhif cyfrif eich treth gyngor NEU gyfeirnod anfoneb y cyngor
- eich cerdyn debyd neu gredyd
- y swm yr hoffech dalu
Ffôn: 01267 679900. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.
Gallwch ddewis siarad ag un o'n hymgynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid am eich bil ar 01267 234567. Oherwydd newidiadau mewn rheoliadau, mae bellach yn ofynnol i chi fewnbynnu manylion eich cerdyn eich hun er mwyn prosesu eich taliad. Sylwch nad yw hwn yn wasanaeth 24 awr ac mae'n berthnasol yn ystod oriau agor y ganolfan alwadau yn unig.
Anfonwch daliadau drwy siec gyda'ch enw, cyfeiriad, a naill ai rhif yr anfoneb neu rif cyfrif y dreth gyngor i:
3 Heol Spilman,
Caerfyrddin,
SA31 1LE
Dylid croesi sieciau a'u gwneud yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin'. Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig.
Peidiwch ag anfon arian parod trwy'r post.
Cofiwch ofyn am dderbynneb os ydych chi angen un.
Gallwch dalu eich bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y Cyngor:
Banc Barclays
Enw'r cyfrif: Cyngor Sir Caerfyrddin
Côd Didoli: 20-19-04
Rhif y cyfrif: 13762092
Cofiwch ddyfynnu rhif yr anfoneb neu rif cyfrif eich treth gyngor.
Gwnewch yn siŵr bod nodyn anfon taliad yn cael ei anfon bob tro y gwneir trosglwyddiad banc neu daliad BACS at JElms@sirgar.gov.uk
Gallwch talu yn un o swyddfeydd talu'r Cyngor:
- Caerfyrddin, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
- Llanelli Hwb, 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR
- Rhydaman Hwb, 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA31 3BS
Gwnewch eich siec yn daladwy i Cyngor Sir Caerfyrddin.
