E-sigaréts ('fêps'), y gyfraith a ti
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/05/2025
Beth yw 'Fêp'?
Sigarét electronig yw esigarét. Dyfais electronig sy'n dynwared sigarét ond heb yr elfen o dybaco. Fodd bynnag, maen nhw'n dal i gynnwys nicotin (fel arfer). Wedi'i ddatblygu'n wreiddiol i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, gyda blas tybaco ac yn dod gyda chit parhaol i’w ail-lenwi, mae e-sigaréts tafladwy wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Yn sgil y datblygiad hwn hefyd daeth blasau newydd yn wahanol i'r tybaco traddodiadol, fel ffrwythau a diodydd meddal adnabyddus. Ar yr un pryd dechreuodd y deunydd pecynnu gynnwys lliwiau llachar a dyluniadau deniadol.
Pwy sy'n gyfrifol?
Y corff goruchwylio ar gyfer e-sigaréts yw'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, sy'n cynnal cofrestr o gynhyrchion sydd wedi'u hysbysu iddyn nhw ac sydd felly'n cael eu gwerthu yn y DU. Mae cyfyngiadau o ran faint o nicotin y gellir ei gynnwys yn y cynhyrchion hyn sydd wedi'u nodi yn y Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig. Ni ddylai cynhwysedd tanciau, podiau a dyfeisiau tafladwy sy'n cynnwys hylif nicotin fod yn fwy na 2ml.
O fewn y sector, mae mwy a mwy o 'fewnforion y farchnad lwyd a du' yn cael eu canfod ar werth yn y DU. Mae rhai wedi’u bwriadu i'w gwerthu ar y farchnad Americanaidd yn unig ac yn cynnwys lefel llawer uwch o e-hylif (ac felly mwy o 'byffiau'), yn ogystal â fersiynau ffug o gynhyrchion a ganiateir.Mae yna bryderon eraill ynghylch honiadau o werthu cynhyrchion o'r fath i bobl ifanc dan oed - yr oedran cyfreithiol ar gyfer prynu e-sigaréts yw 18.
Yn dilyn pryderon o'r fath, mae Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin yn cynnal arolygon rheolaidd ac yn gweithredu ar ddeallusrwydd ynghylch gwerthwyr e-sigaréts. Rhoddir cyngor ac arweiniad bob amser yn y lle cyntaf ond gellir cymryd camau pellach os canfyddir achosion o dorri rheolau wedi hynny.