Cyngor i bobl ifanc
Pwyll Piau Hi. Paid Dechrau.
Falle bod fepio'n edrych yn cŵl neu'n ddiniwed, ond dyw e ddim. Paid â chael dy sugno i mewn. Dysga’r ffeithiau. Cadwa'n glir o'r fêp!
Fepio yw pan fydd pobl yn defnyddio dyfais electronig i fewnanadlu nicotin fel anwedd. Mae rhai fêps yn cynnwys nicotin, ac eraill ddim. Maen nhw hefyd yn dod mewn amrywiaeth o flasau, ond mae'r rhan fwyaf o'r fêps ar y farchnad yn cynnwys nicotin - sylwedd caethiwus.
Gall nicotin wneud i ti deimlo'n anghyfforddus neu'n methu canolbwyntio a gwneud i ti fod eisiau fepio mwy. Dros amser, gall nicotin gael effaith ddifrifol ar dy iechyd, yn enwedig os wyt o dan 18 oed.