Cyngor i ddefnyddwyr a rhieni pobl ifanc
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/05/2025
Dwi'n meddwl bod fy mhlentyn yn fepio - beth alla i ei wneud?
Mae cynnydd wedi bod yn y bobl ifanc sy'n fepio pan nad ydyn nhw erioed wedi ysmygu sigarét. Mae tystiolaeth yn dangos y gallai hyn fod yn gysylltiedig â phwysau gan gyfoedion a'r awydd i arbrofi.
Yn ôl data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, mae bron i un o bob chwe myfyriwr blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9%) yn defnyddio fêps yn rheolaidd ac mae dros 45 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêp.
Mae rhai yn gweld fêps fel dewis 'diogel' yn lle sigaréts. Er bod hyn yn wir i raddau, maen nhw'n dal i gynnwys nicotin sy'n niweidiol i blant sy'n tyfu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu rhywfaint o wybodaeth a chanllawiau yn benodol ar gyfer rhieni/gofalwyr os ydynt yn amau y gallai eu plentyn fod yn fepio a gellir dod o hyd iddyn nhw drwy fynd i icc.gig.cymru/pynciau/fepio/pobl-ifanc-a-fepio-gwybodaeth-i-rieni-a-gofalwyr/
Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu rhieni a gofalwyr i gael dealltwriaeth glir sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fepio ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau fepio ar iechyd, ystadegau ar faint o bobl ifanc sy'n fepio, awgrymiadau ar sut i adnabod arwyddion posibl o fepio, a chyngor ar sut i drafod y pwnc yn effeithiol.
Efallai y bydd gan ysgolion eu polisïau mewnol eu hunain ar y mater
Mae Gwybodaeth a Chanllawiau ar Fepio ar gyfer Dysgwyr Oed Uwchradd yng Nghymru, wedi'u hanelu at athrawon a'r rhai sy'n gweithio gyda myfyrwyr oed uwchradd. Mae'r canllaw hwn, a gynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig mewnwelediadau ar sail data fepio ac yn rhoi'r offer i ysgolion fynd i'r afael â'r mater drwy bolisïau, arferion a'i integreiddio yn y cwricwlwm.
Os oes unrhyw aelod o'r cyhoedd yn pryderu am y materion a godwyd yma – h.y. cynnyrch anghyfreithlon neu werthiant i bobl ifanc dan 18 oed, rhowch wybod drwy ffonio 01267 234567.