Cyngor i fusnesau

Ar 1 Mehefin 2025, bydd yn anghyfreithlon i fusnesau werthu neu gyflenwi fêps untro (tafladwy).

Dylid dod o hyd i gynnyrch gan gyflenwr cyfreithlon a gofyn am gadarnhad ysgrifenedig o archebion fel y gellir eu holrhain.Os nad yw busnes yn siŵr a ellir gwerthu cynnyrch penodol yn gyfreithiol, mae cofrestr ar wefan MHRA y gellir ei defnyddio i wirio - ECIG Search Page | MHRA 

O ran cyfyngiad oedran, rhaid i fasnachwyr gynnal gwiriadau hunaniaeth lle mae unrhyw amheuaeth ynghylch a yw'r cwsmer yn 18 ai peidio.  Os gwrthodir gwerthiant, dylid nodi hyn mewn log gwrthod.  Offer eraill a all gynorthwyo manwerthwyr yw negeseuon ar y til a pholisi Her 21 neu 25.  

Os oes angen cyngor pellach ar fanwerthwr, yna gall gysylltu â Safonau Masnach drwy safonaumasnach@sirgar.gov.uk a hefyd fynd i Tybaco a fêps | Business Companion

Yn debyg i'r cyngor i fasnachwyr, dylai defnyddwyr y cynhyrchion hyn fod yn ymwybodol o'r cynhyrchion anghyfreithlon posibl y gellir eu rhoi ar y farchnad (mae'n bosibl bod hyn ddigwydd heb i'r gwerthwr wybod).  Un rheswm dros ddefnyddio'r cynhyrchion hyn yw helpu i roi'r gorau i ysmygu sigaréts felly byddai lefel y nicotin yn ffactor pwysig, yn enwedig os yw'n uwch na'r hyn a ganiateir.