Mae'r Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd yng Nghyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gefnogi a hyrwyddo brechu ledled y sir. Rydyn ni'n mynd i ddigwyddiadau lleol i godi ymwybyddiaeth o atal heintiau, gan gynnwys rôl hollbwysig imiwneiddio.
Os byddai eich grŵp cymunedol neu eich digwyddiad yn elwa o gael cymorth gennym, cysylltwch â ni: IPCCAREHOME@sirgar.gov.uk
Pam mae Brechu'n Bwysig
Mae brechiadau'n achub bywydau. Ers 1974, maen nhw wedi atal dros 154 miliwn o farwolaethau ledled y byd - mae hynny'n fwy na thair miliwn o fywydau bob blwyddyn, neu chwe bywyd bob munud. (Sefydliad Iechyd y Byd, 2025).
Brechlynnau yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun, eich teulu, a'r gymuned ehangach rhag salwch difrifol. Maen nhw'n helpu i atal lledaeniad clefydau heintus fel y frech goch, clwy'r pennau, a'r ffliw, ac yn amddiffyn y rhai na ellir eu brechu, fel plant ifanc iawn neu bobl â systemau imiwnedd gwan.
Mae cael y brechiadau diweddaraf yn hollbwysig. Mae oedi neu golli brechiadau arferol yn eich rhoi chi ac eraill mewn perygl.
Chwalu Mythau
Nid yw Brechlynnau'n Gorlwytho'r System Imiwnedd: Mae'n gwbl ddiogel rhoi sawl brechlyn i blant ar yr un pryd. Nid yw'n llethu eu systemau imiwnedd; mae'n eu helpu i ddatblygu imiwnedd yn fwy effeithlon.
Does dim Cynhwysion Niweidiol mewn Brechlynnau: Mae brechlynnau'n ddiogel ac yn cael eu profi'n helaeth cyn cael eu cyflwyno i'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys treialon clinigol trwyadl a monitro parhaus ar ôl iddyn nhw fod ar gael. Yn y DU, mae'r holl frechlynnau'n cael eu monitro'n ofalus gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel ac yn effeithiol. Os ydych chi'n cael sgil-effaith, gallwch roi gwybod amdano drwy'r Cynllun Cerdyn Melyn: https://cttcg.gig.cymru/optimeiddio-a-diogelwch-meddyginiaethau/canolfan-cerdyn-melyn-cymru/
Nac Ydyn, Nid yw Brechlynnau'n Achosi Awtistiaeth: Nid yw ymchwil helaeth wedi canfod unrhyw gysylltiad rhwng brechlynnau, gan gynnwys y brechlyn MMR, ac awtistiaeth.
I gael gwybodaeth fanwl am frechiadau, amserlenni imiwneiddio, ac argymhellion ynghylch brechlynnau arferol, dilynwch y ddolen neu sganiwch y côd QR: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/
Os ydych chi'n credu efallai eich bod chi neu eich plentyn wedi colli unrhyw frechiadau, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu eich darparwr gofal iechyd i gael cyngor. Mae eich meddyg teulu'n cadw cofnod o'r holl frechiadau rydych chi wedi'u cael trwy gydol eich oes. Os ydych chi wedi newid practisau meddyg teulu, gallwch ofyn i'ch meddyg teulu presennol gael eich hanes brechu gan eich darparwr blaenorol.