Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Ysmygu yw prif achos salwch y gellir ei atal a marwolaeth gynamserol yng Nghymru o hyd, gan effeithio ar 13% o oedolion, ond nid oes rhaid i'ch dyfodol chi fod fel hyn. Penderfynu rhoi'r gorau i ysmygu yw un o'r camau mwyaf pwerus y gallwch eu cymryd i wella eich iechyd cyffredinol, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi. P'un a ydych yn eich 20au neu'ch 60au, mae rhoi'r gorau i ysmygu yn dod â manteision uniongyrchol a hirdymor sy'n gwella eich llesiant corfforol a meddyliol.

Pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu, mae'ch corff yn dechrau gwella ar unwaith, gan leihau eich risg o glefydau difrifol fel clefyd y galon, canser, a chyflyrau anadlol. Ond mae'r manteision yn ymestyn ymhell y tu hwnt i iechyd corfforol. Mae llawer o bobl yn profi gwell iechyd meddwl, gyda llai o straen, gorbryder, a hyd yn oed symptomau iselder. Drwy ofalu am eich corff a'ch meddwl, rydych chi'n buddsoddi mewn dyfodol iachach, hapusach.

Drwy roi'r gorau i ysmygu, rydych chi nid yn unig yn ei wneud er eich iechyd eich hun, ond hefyd er llesiant y rhai o'ch cwmpas. Mae mwg ail-law yn beryglus, yn enwedig i blant, y mae eu hysgyfaint a'u systemau imiwnedd yn dal i ddatblygu, felly gwnewch y newid heddiw i amddiffyn eich teulu rhag tocsinau niweidiol, gan greu amgylchedd mwy diogel, iachach iddyn nhw.

Mae ysmygu yn arfer drud, a bydd rhoi'r gorau yn eich helpu helpu i arbed swm sylweddol o arian. P'un a ydych chi'n cynilo ar gyfer rhywbeth arbennig neu ond eisiau cadw mwy o'ch arian gwerthfawr, mae rhoi'r gorau i ysmygu yn ffordd effeithiol o wella eich sefyllfa ariannol.

Mae yna amrywiaeth o adnoddau ac opsiynau cymorth am ddim dan arweiniad arbenigwyr i'ch helpu yn eich taith tuag at fywyd di-fwg. O gyngor proffesiynol a chynlluniau rhoi'r gorau iddi wedi'u teilwra i therapïau amnewid nicotin a chefnogaeth emosiynol, nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun.