Cofrestru Genedigaeth
Llongyfarchiadau ichi ar enedigaeth eich babi!
Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod prysur, ond a oeddech yn ymwybodol ei fod yn ofyniad statudol ichi gofrestru genedigaethau yng Nghymru a Lloegr cyn pen 42 diwrnod? Mae angen i chi drefnu apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth yn yr ardal* y ganed y plentyn.
Pan fyddwch yn mynd i'r apwyntiad, bydd y cofrestrydd yn cofnodi enw a chyfenw llawn eich plentyn, enwau llawn y rhiant / rhieni, eu mannau geni, galwedigaethau a chyfeiriad neu gyfeiriadau. Gellir cofrestru genedigaethau yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Wedi i'r wybodaeth hon gael ei ychwanegu at y gofrestr, gofynnir ichi lofnodi'r cofnod cyfreithiol a fydd yn cael ei gadw yn y gofrestr geni. Cyn llofnodi, mae'n rhaid ichi sicrhau bod y wybodaeth a gofnodwyd yn hollol gywir. Os ydych eisiau cywiro neu newid cofnod geni'r plentyn, mae croeso ichi gysylltu â ni ar 01267 228210. Cofiwch - ei bod yn bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu ffioedd statudol.
*O bryd i'w gilydd, gallwch drefnu i gofrestru y tu allan i'r ardal y ganed y plentyn, fodd bynnag, gall hyn achosi oedi o ran y broses o gofrestru a derbyn y dystysgrif geni. Os ydych yn dymuno trafod cofrestru y tu allan i'r ardal, a fyddech cystal â ffonio ni ar 01267 228210.
Pwy sy'n gallu cofrestru
Os oeddech yn briod â’ch gilydd neu mewn partneriaeth sifil pan anwyd eich plentyn (neu adeg ei feichiogi) gall y naill neu’r llall ohonoch gofrestru’r enedigaeth ar eich pen eich hun a chofnodi manylion y ddau riant.
Os nad oeddech yn briod â'ch gilydd neu mewn partneriaeth sifil pan anwyd eich plentyn (neu adeg ei feichiogi) a bod y ddau ohonoch yn dymuno cael eich cynnwys ar y dystysgrif geni, rydym yn argymell bod y ddau ohonoch yn dod i'r apwyntiad fel cyd-hysbyswyr i arwyddo'r gofrestr gyfreithiol.
Gall mam sy'n ddibriod neu ddim mewn partneriaeth sifil ddod i apwyntiad ar ei phen ei hun i gofrestru genedigaeth y plentyn a chofnodi dim ond ei gwybodaeth hi yn y gofrestr. Gall manylion y tad naturiol gael eu hychwanegu yn ddiweddarach drwy ail-gofrestru a gellir gwneud hyn pryd bynnag y dymunwch.
Fodd bynnag, mewn amgylchiadau penodol, mae yna ddarpariaethau cyfreithiol sy’n caniatáu i naill ai rhiant dibriod neu bartner gofnodi manylion y ddau riant heb fod y llall yn dod. I gael cyngor, ffoniwch ni ar 01267 228210.
Mewn amgylchiadau eithriadol lle nad yw'r naill riant na'r llall yn gallu cofrestru genedigaeth, cysylltwch â ni ar 01267 228210 i gael gwybodaeth a chyngor.
Beth sydd angen ichi ddod gyda chi i gofrestru'r enedigaeth
Bydd yr ysbyty lleol, lle ganed y plentyn, yn rhoi gwybod inni am yr enedigaeth. Mae'n bosibl y bydd angen ichi gyflwyno llyfr coch y babi.
Bydd angen ichi ddod â phrawf adnabod ar gyfer y ddau riant a phrawf o'r cyfeiriad
Y canlynol yw'r dogfennau a ffefrir gennym:
- Prawf Adnabod - Pasbort, tystysgrif geni neu drwydded yrru
- Prawf o'ch cyfeiriad - bil cyfleustodau, datganiad banc neu drwydded yrru
Os ydych yn briod, a fyddech cystal â dod â'ch tystysgrif briodas gyda chi.
Nid oes angen i chi ddod â'ch babi gyda chi i swyddfa'r cofrestrydd fel prawf o'r enedigaeth. Gallwch drefnu apwyntiad i gofrestru genedigaeth ar-lein.
Tystysgrifau
Mae copi llawn o gofnod y gofrestr sy'n nodi enwau'r rhieni, cyfeiriadau, mannau geni, a galwedigaethau ar gael i'w brynu am £12.50 yr un wrth gofrestru. Mae'n rhaid cael tystysgrif geni i agor cyfrif banc a chael pasbort.
Ar ôl cofrestru, gellir gofyn am ragor o gopïau o dystysgrifau ac mae modd eu harchebu ar-lein.
Trefnwch apwyntiad