Ein Hystafelloedd Seremonïau
Y lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig
- share this page by email
- share this page on Facebook, opens in a new tab
- share this page on X (Twitter), opens in a new tab
- share this on Linked In, opens in a new tab
Mae ein hystafell seremonïau yn llawn hanes lleol a chymeriad ac maent wedi'u hadnewyddu a'u haddasu'n dringar i ddiwallu eich gofynion a'ch disgwyliadau.
Yr Hen Ysgol, Caerfyrddin
Mae Hen Ysgol Gymraeg Bro Myrddin ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin, a adeiladwyd tua 1930, yn adeilad hardd sydd wedi'i leoli mewn ardal gadwraeth. Mae'n cynnwys llawer o nodweddion cyfnod gwreiddiol ac mae wedi’i addurno’n chwaethus fel ei fod yn addas ar gyfer unrhyw achlysur. Lleolir yr adeilad wrth ochr hen faes chwaraeon yr ysgol ac mae wedi'i amgylchynu gan lawntiau a phlanhigion. Mae'n lleoliad bendigedig ar gyfer eich diwrnod arbennig.
Y Myrddin
Hyd at 60 o westeion
Myrddin yw'r ystafell a adnewyddwyd fwyaf diweddar gennym. Mae wedi cael ei dodrefnu'n foethus gan ddefnyddio gwydr ac arian sgleiniog, gyda chelfi meddal gwyrdd a blodau gwyn llachar. Mae'r ystafell hudolus hon yn cynnig rhywbeth i bawb, gan ei bod yn gyferbyniad hyfryd rhwng y traddodiadol a'r cyfoes. Mae digon o le i gymryd lan at 60 o westeion yn rhwydd yn ystafell Myrddin.
Dydd Llun – Dydd Iau | Dydd Gwener – Dydd Sadwrn | Dydd Sul – Gwyliau Banc |
---|---|---|
£385 | £445 | £635 |
Yr Hen Lyfrgell
Hyd at 20 o westeion
Mae Hen Lyfrgell yr Ysgol wedi cael ei hadfer yn chwaethus ond mae'n dal i gadw llawer o'i nodweddion gwreiddiol. Mae'r ystafell wedi'i haddurno gan ddefnyddio lliwiau euraidd a choch cynnes, cryf a meddal ac mae lle i hyd at 20 o westeion. Mae'r grisiau a'r silffoedd llyfrau derw gwreiddiol, sy'n cynnwys llyfrau wedi'u rhwymo mewn lledr, yn gefndir gwych ar gyfer unrhyw seremoni, beth bynnag y bo'r achlysur.
Nifer o westeion | Dydd Llun – Dydd Iau | Dydd Gwener – Dydd Sadwrn | Dydd Sul – Gwyliau Banc |
---|---|---|---|
Hyd at 20 | £225 | £285 | £635 |
Yr Hen Dderwen
Hyd at 20 o westeion
Mae lle i 20 o westeion yn yr Hen Dderwen, a oedd yn ystafell ddarlithio fach yn wreiddiol. Defnyddir calonnau a nyddwyd â llaw i orffennu'r seti derw gwreiddiol, gan gynnwys lliwiau euraidd, hufen a choch garw, cynnes. Mae'r ystafell hon yn cynnig dewis traddodiadol, ond gwahanol, ar gyfer unrhyw fath o seremoni.

Y Dwynwen
Hyd at 10 o westeion
Y Dwynwen yw ein harlwy lai yn Yr Hen Ysgol sy’n caniatáu hyd at 10 o westeion mewn gofod sydd wedi’i addurno’n ddymunol sy’n berffaith ar gyfer y seremoni fwy cartrefol.

Hyd at 10 | £175 | £210 | £635 |

Neuadd y Dref Llanelli
Mae Neuadd y Dref, Llanelli yn adeilad rhestredig hanesyddol a adeiladwyd yn 1882 mewn arddull neo-Jacobeaidd. Mae'n dirnod yn Llanelli ac mae'n un o adeiladau pensaernïol mwyaf trawiadol Sir Gaerfyrddin. Mae'r tu mewn wedi'i addurno gan ddefnyddio lliwiau euraidd a choch moethus, sy'n pwysleisio ac yn ategu ei ysblander a'i fri. Mae'r adeilad wedi'i amgylchynu gan erddi coffa hardd.
Sylwych y gall niferoedd o westeion a ffioedd seremonïau amrywio yn ystod y Pandemig Coronafirws.
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref
Hyd at 65 o westeion
Mae gan yr ystafell fawr, urddasol hon a ddodrefnwyd yn draddodiadol yn Neuadd y Dref, ddigon o le i hyd at 65 o westeion. Mae'r ystafell yn ddewis poblogaidd yn Llanelli gan ei bod yn cynnig lleoliad cyfleus yn ogystal â chefndir arbennig y tu mewn a'r tu allan iddi ar gyfer ffotograffau.

£385 | £445 - £575 | £635 |
Ystafell y Cadeirydd
Hyd at 20 o westeion
Ychwanegiad newydd ir opsiynau yn Neuadd Y Dref Llanelli, rydym yn falch i gynnig Yr Ystafell y Cadeirydd. Gofod hamddenol, anffurfiol gyda ddigon o fawredd i rhoi achlysur i’ch diwrnod arbennig.
Nifer o westeion | Dydd Llun – Dydd Iau | Dydd Gwener (Dim ar gael Dydd Sadwrn) | Dydd Sul – Gwyliau Banc |
---|---|---|---|
Lan i 20 | £225 | £285 | £635 |
Ystafell y Gofrestrydd
Hyd at 10 o westeion
Mae Ystafell y Gofrestrydd, gyda golygfeydd dros erddi Neuadd y Dref, yn ystafell ddelfrydol ar gyfer cynulliadau llai.

Mae'r ffioedd ar gyfer Caerfyrddin a Llanelli yn cynnwys cyfarfod gyda'ch cofrestrydd cyn eich diwrnod priodas i drafod eich gofynion a sgript seremoni wedi'i phersonoli. Gellir archebu a thalu am dystysgrifau ar ol y seremoni ac maent yn costio £12.50 yr un. Gofyn am gopi o dystysgrif.
Seremoni statudol
Gall cyplau sy'n dymuno cynnal y seremoni briodas gyfreithlon neu bartneriaeth sifil fwyaf syml, iddynt hwy eu hunain a 2 dyst yn unig, archebu'r ystafell statudol yng Nghaerfyrddin o ddydd Llun i ddydd Iau.

£56 | n/a | n/a |
Trefnu ymweliad
Gall yr holl ystafelloedd gael eu harchebu 3 blynedd o flaen llaw. Rydym yn argymell eich bod yn gweld yr ystafelloedd a byddwn wrth ein boddau yn mynd â chi o amgylch y ddau leoliad. Ffoniwch ni ar 01267 228210 i wneud apwyntiad i weld unrhyw un o'n hystafelloedd seremonïau yng Nghaerfyrddin neu Llanelli.