Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Diweddarwyd y dudalen ar: 28/08/2024
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi bod mewn grym ers 6ed Ebrill 2016, ac mae'n rhoi mwy o lais i chi yn y gofal a'r cymorth a gewch.
Er mwyn eich helpu i gadw mor iach â phosibl, gallwch wneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. Mae gennych hefyd fynediad haws at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Mae gan ofalwyr a'r person y maent yn gofalu amdanynt yr un hawl i gael eu hasesu am gymorth ac mae mwy o bobl bellach yn gymwys i gael Taliadau Uniongyrchol.
Mae'r broses asesu ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
- Mae'r asesiad bellach yn symlach a gall un person ei gynnal ar ran ystod o sefydliadau.
- Mae yna hefyd bellach fwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, fel bod y cymorth cywir ar gael pan fydd ei angen arnoch.
- Mae pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi'u cyflwyno.