Anableddau Dysgu
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/01/2026
Mae'r Tîm Cymunedol Anableddau Dysgu yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i oedolion sy'n agored i niwed dros 25 oed sydd ag Anabledd Dysgu fel eu prif angen. Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol ac ymarferwyr lles a llesiant.
Gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ogystal ag asesiad i oedolion a gofalwyr er mwyn gallu rhoi'r cyngor a'r cymorth cywir ichi a fydd yn diwallu eich anghenion.
Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac amrywiaeth o sefydliadau cymunedol lleol a'r trydydd sector.
Gallwch gysylltu â:
Delta Well-Being sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am wasanaethau sydd ar gael yn y gymuned. Cysylltwch â nhw drwy:
📞 Ffon: 0300 333 2222
🌐
Tîm Awdurdod Lleol y Gymuned Anableddau Dysgu:
Cysylltwch â'r tîm a siaradwch â Swyddog Dyletswydd drwy ffonio yn ystod oriau swyddfa:
📞 Caerfyrddin: 01267 242407
📞 Llanelli: 01554 742416
Eich meddyg teulu: Os yw eich angen yn ymwneud â’ch iechyd, gall eich meddyg drafod gwahanol opsiynau gyda chi a gall eich cyfeirio at wasanaethau perthnasol neu Dîm Cymunedol Anabledd Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth atal a chymorth cynnar priodol sy'n darparu cymorth i oedolion a'u gofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd y gwasanaeth hwn yn eich cefnogi drwy eich cysylltu â gwasanaethau atal neu gymorth arall yn eich cymuned.
Mae'r cymorth mae'r gwasanaethau hyn yn eu cynnig yn cynnwys y canlynol:
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
- Cymorth Emosiynol ac Ymarferol
- Gwybodaeth a chyngor am sut i gael gafael ar gymorth ar gyfer cymorth ariannol a thai
- Gwybodaeth am sut i gael mynediad at Adnoddau Cymunedol
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gymorth yn y gymuned drwy ddefnyddio'r ddolen gyswllt hon Gwybodaeth i helpu gydag Anabledd Dysgu - Cysylltu Sir Gâr
Os na ellir diwallu eich anghenion drwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan eich cymuned, efallai y byddwch yn gymwys i gael asesiad o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCLl).
Bydd aelod o’r tîm yn siarad â chi am y camau nesaf ac yn trefnu i gwrdd â chi.
Byddwn yn ymweld â chi i siarad am:
- Eich sefyllfa bresennol
- Beth sy’n bwysicaf i chi
- Yr hyn yr hoffech ei gyflawni
Gallwch gael rhywun gyda chi i’ch cefnogi, fel aelod o’r teulu neu ffrind. Os nad oes gennych neb ond nad ydych am fod ar eich pen eich hun, gallwn helpu i ddod o hyd i rywun i’ch cefnogi.
Efallai y caiff eich asesiad ei rannu â gweithwyr proffesiynol eraill fel y gallwn ddeall eich anghenion a chynnig y ffyrdd gorau o’ch helpu. Weithiau, gallwn drefnu apwyntiadau dilynol neu eich cyfeirio at weithwyr iechyd proffesiynol yn y tîm anabledd dysgu yn y gymuned am gymorth ychwanegol.
Os bydd eich asesiad yn dangos bod gennych anghenion cymwys o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCLl), bydd gweithiwr cymdeithasol yn gweithio gyda chi i greu Cynllun Gofal a Chymorth. Bydd y cynllun hwn yn rhestru’r gwasanaethau y byddwch yn eu derbyn ac yn canolbwyntio ar eich nodau mewn meysydd fel:
- Iechyd corfforol a meddyliol
- Lles emosiynol
- Diogelwch personol
- Addysg, hyfforddiant a hamdden
- Teulu a pherthnasoedd
- Cyfranogiad yn y gymuned
- Hawliau a Hawliadau
- Lles cymdeithasol ac economaidd
- Llety
Bydd eich cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn dal i fodloni eich anghenion ac yn eich helpu i gyflawni eich canlyniadau personol.
Bydd gweithwyr yn eich helpu i ddeall beth sy’n bwysig i chi, gan edrych ar eich cryfderau a’r pethau gallwch eu gwneud, er mwyn gwneud eich gofal a’ch cymorth yn addas i chi.
Bydd gweithwyr yn eich cynnwys wrth wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod eich dewisiadau a'ch amgylchiadau personol yn cael eu hystyried.
Unwaith y bydd cynllun Gofal a Chymorth ar waith a bod gwasanaethau yn diwallu anghenion cymwys, bydd y cynllun yn cael ei adolygu yn blynyddol, ond gall hyn fod yn fwy rheolaidd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.




