Hwb Sgiliau
Rydym yn wasanaeth menter gymdeithasol wedi’i leoli yng Nghross Hands, sy’n cynnig:
- Sesiynau crochenwaith a gwaith coed lle mae cyfranogwyr yn dysgu sgiliau ymarferol ac yn cynhyrchu eitemau wedi’u gwneud â llaw.
- Cymorth Cyflogadwyedd, gyda chysylltiadau â chyfleoedd gwirfoddoli a gwaith drwy dîm cyflogadwyedd.
- Lleoliadau Gwirfoddoli â Chymorth lle gall unigolion ddysgu sut i wasanaethu cwsmeriaid, defnyddio til, cylchdroi stoc a llawer mwy. Byddwn yn eu cefnogi i gwblhau hyfforddiant hylendid bwyd achrededig a hyfforddiant perthnasol arall. Rydym yn defnyddio dull “cefnogi ac yna cilio”, gan gyflwyno unigolion i ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned leol.
- Ardal siop fach sy’n gwerthu cynnyrch sydd wedi’i ddylunio a’i wneud gan ein crefftwyr talentog.
Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy’n bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar elw yn unig, mae mentrau cymdeithasol yn ail-fuddsoddi eu hincwm i gyflawni nodau cymdeithasol.
Rydym yn darparu cyfleoedd i unigolion sy’n wynebu rhwystrau i hyfforddiant a gwaith, gan gynnwys y rhai gyda:
- Anableddau dysgu
- Anableddau corfforol
- Cyflyrau niwroamrywiol
- Cyflyrau iechyd meddwl
Rydym yn helpu cyfranogwyr i oresgyn rhwystrau i wirfoddoli a gwaith drwy:
- Datblygu eu sgiliau
- Eu helpu i ennill annibyniaeth
- Cynyddu hyder
- Gwella iechyd a lles
Rydym yn sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan greu amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar waith ac yn adeiladu ar gryfderau unigol.
Os ydych yn gymwys i fynychu sesiynau Crochenwaith a Gwaith Coed, bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol / rheolwr gofal. Efallai y cewch gynnig Asesiad Gofal – mae mwy o wybodaeth ar gael yma am yr hyn sy’n digwydd yn ystod asesiad. Sut i gael help
Ar ôl yr asesiad, os ydych yn gymwys i gael gwasanaethau, byddwch yn cymryd rhan yn diweddaru eich cynllun gofal a chymorth – bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys.
Efallai y bydd tâl am y gwasanaeth cymorth hwn; gallwch gael mwy o wybodaeth yma: Talu am Ofal Gartref.
Byddwch yn cael cynnig asesiad ariannol a fydd yn penderfynu faint y bydd angen i chi gyfrannu tuag at eich gwasanaeth.
Cyn i’ch gwasanaeth ddechrau, bydd gennych gyfle i ymweld â’n gwasanaethau a chwrdd â staff i sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i chi.
Nid oes angen gweithiwr cymdeithasol na Chynllun Gofal a Chymorth arnoch i gael eich cyfeirio i gael mynediad at leoliad gwirfoddoli, mae angen i chi fod â rhwystr i waith yn unig.
Gallwn hefyd eich cyfeirio at asiantaethau eraill os na allwn eich helpu.
Unwaith y byddwch yn cael eich cefnogi gennym ni, ein prif nodau yw canlyniadau unigol a chynnydd.
Byddwn bob amser yn gosod dyddiad adolygu ac yn adolygu amcanion personol.
Byddwn yn gweithio gyda’n tîm Cyflogadwyedd, sy’n cefnogi unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a gwaith â thâl.
Mae’r siop ar agor Dydd Llun i Dydd Gwener 9:00yb - 3:00yp.









