Cynnig Lleol i Blant Anabl

Mae Cynnig Lleol Sir Gaerfyrddin yn darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd mewn un lle. Mae'n dangos i deuluoedd yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan amrywiaeth o asiantaethau lleol, gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

  • Mae'r Cynnig Lleol yn dwyn ynghyd wybodaeth mewn un lle ar gyfer:
  • Plant a phobl ifanc anabl o enedigaeth i 25 oed
  • Rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc anabl
  • Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes addysg, iechyd a gofal cymdeithasol
  • Darparwyr gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl