Hwb Cymorth Cynnar
Mae'r Hwb Cymorth Cynnar yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy ddefnyddio'r dull cymorth cynnar i sicrhau newid cadarnhaol, parhaol. Trwy gynnig cymorth yn gynnar, rydyn ni'n helpu i atal problemau rhag gwaethygu a sicrhau bod teuluoedd yn cael yr help cywir ar yr adeg iawn.
Pwy ydyn ni'n ei gefnogi
Mae'r Hwb Cymorth Cynnar yn cefnogi teuluoedd sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin. Gall rhieni a gofalwyr gysylltu â ni'n uniongyrchol os ydyn nhw'n teimlo y byddai eu teulu yn elwa ar gymorth ychwanegol.
Sut allwn ni helpu
Mae cymorth wedi'i deilwra i anghenion pob teulu a gall gynnwys cymorth gyda'r canlynol:
Cryfhau perthnasoedd teuluol a lleihau gwrthdaro
Rheoli ymddygiad plant a chefnogi arferion cadarnhaol
Tai
Cyllid
Iechyd a llesiant
Cymorth i ofalwyr ifanc
Cymorth niwed cudd a cham-drin domestig
Cysylltu teuluoedd â gwasanaethau lleol a chymorth cymunedol
Mae'r holl gymorth yn cael ei gynnig ar sail wirfoddol, gyda rhieni a gofalwyr yn dewis ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth â ni.
Sut ydyn ni'n gweithio
Rydyn ni'n cymryd dull cydweithredol i ddarparu gwasanaeth unedig sy'n integreiddio gwahanol wasanaethau cymorth.
Mae ein gwaith yn seiliedig ar gryfderau, gan adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio'n dda yn eich teulu wrth eich helpu i oresgyn heriau gyda'ch gilydd.
Cysylltwch â ni
Os ydych chi'n meddwl y gallai'r Hwb Cymorth Cynnar wneud gwahaniaeth i chi a'ch teulu, cysylltwch â ni.
Rhif Ffôn: 01554 742277
E-bost: EarlyHelpHub@sirgar.gov.uk
Cyfeiriad:
Hwb Cymorth Cynnar
Hen Ysgol Plant Bach y Morfa, Stryd Newydd, Morfa, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2DQ
Oriau swyddfa:
Dydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm
Dydd Gwener: 9am i 4:30pm
