Y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr
Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda phlant rhwng 10 a 17 oed sydd wedi bod mewn trafferth gyda'r heddlu neu sydd wedi ymddangos gerbron y Llysoedd Ieuenctid.
Rydym yn cefnogi plant fel y gallwn atal aildroseddu. Rydym hefyd yn cynnig cynllun atal troseddu i atal plant rhwng 8 ac 17 oed rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddau.
Rydym hefyd yn gweithio gyda rhieni neu ofalwyr, dioddefwyr troseddau, gwirfoddolwyr a'r gymuned leol. Mae'r tîm yn cynnwys staff o Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Prawf, Gwasanaethau Plant, Addysg ac Iechyd, a'r cyfan oll yn gweithio gyda'i gilydd i leihau troseddau ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin yn ogystal a gwella presenoldeb yn yr ysgol.
Ein Dull Ni o Weithredu
Wrth oruchwylio plant, mae'n rhaid i ni gydbwyso eu llesiant â rheoli risg i'r gymuned.
Mae deall beth mae ein plant wedi'i brofi yn eu bywydau yn ganolog i'n dull gweithredu a'n hymyrraeth, yn enwedig effaith trawma ar eu datblygiad, a hynny fel ymateb i ffactorau straen dwys neu gronig.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ymarfer sy'n seiliedig ar drawma, sy'n cydbwyso'r angen i greu ffiniau ar gyfer eu hymddygiad; ynghyd â'u hannog i beidio â throseddu yn y dyfodol ac amddiffyn pobl rhag niwed.
Rydym yn canolbwyntio ar anghenion unigol y plentyn ac yn cynnig dull "Plant yn Gyntaf". Rydym yn cwblhau asesiadau cynhwysfawr, sy'n ceisio nodi pryderon diogelwch a llesiant, pryderon diogelwch i eraill a'r tebygolrwydd o aildroseddu, gan arwain at ddarparu cynlluniau ymyrraeth personol sy'n ymateb i anghenion a risgiau unigol plant.
Rydym yn cydnabod bod angen cymorth ar blant sydd wedi profi amgylcheddau anghyson ac ansefydlog i ddatblygu sgiliau da o ran datrys problemau a rheoli ysgogiad ac rydym yn gweithio gyda nhw i'w helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau newydd. Rydym yn ceisio eu helpu i reoleiddio'r ymddygiad a allai fod wedi deillio o'u profiad o drawma, a hynny trwy eu haddysgu i gydnabod eu sbardunau a'u hymatebion pan fyddant mewn sefyllfaoedd y maent yn eu hystyried yn heriol.
Cysylltu â ni
E-bost: yss@sirgar.gov.uk
*Rhif ffôn: 01554 744 322
Rydym ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 8:45pm a 17:00.
*Mae'n bosibl y caiff galwadau eu recordio fel rhan o'n hymrwymiad i hyfforddiant, archwilio a sicrhau ansawdd.