Biwro (Cynllun Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys)

Mae Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys yn caniatáu i'r heddlu ddelio â throseddau lefel isel ar gyfer plant nad oes ganddynt unrhyw droseddau blaenorol. 'Biwro' yw enw'r broses hon yn Sir Gaerfyrddin.  

Ar gyfer troseddau lefel isel, bydd yr heddlu'n atgyfeirio'r mater at y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid. Bydd yr achos yn cael ei ddyrannu i aelod o'r tîm, a fydd yn trefnu i ymweld â'r plentyn a'i riant/rhieni/gofalwr/gofalwyr yn ei gartref er mwyn paratoi asesiad ar gyfer y panel Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys. 

Yna, bydd y plentyn a'i riant/rhieni/gofalwr/gofalwyr yn cael amser a dyddiad i gwrdd â Swyddog yr Heddlu - Cyfiawnder Ieuenctid, ac Uwch-ymarferydd. Pwrpas hyn yw rhoi cynllun ar waith i helpu i gefnogi'r plentyn yn gynnar.

Os yw plentyn yn ymwneud â throseddau lefel isel ac yn cyfaddef ei fod yn euog, gallai plentyn gael un o'r Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys canlynol:

  • Canlyniad anffurfiol ar gyfer trosedd lefel isel.
  • Mae wedi'i anelu at blant sydd wedi cyflawni eu trosedd gyntaf, wedi cyfaddef eu bod wedi gwneud hynny ac mae'r dioddefwr wedi cytuno ynghylch hyn.
  • Mae'n broses wirfoddol.
  • Bydd yn helpu i roi'r gorau i droseddu drwy wneud y gwaith y cytunwyd arno yn y cynllun. 
  • Fe'i cofnodir ar systemau yr Heddlu LLEOL, ond nid ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) felly NI fydd yn rhoi cofnod troseddol i chi
  • NI fydd angen i chi ddweud wrth gyflogwyr yn y dyfodol, ond gallai ddangos ar rai gwiriadau fel gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS).
  • Mae hwn yn ganlyniad ffurfiol yn sgil Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys.
  • Gellir ei roi am unrhyw drosedd lle mae'r plentyn wedi cyfaddef y drosedd.
  • Efallai y bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith gyda'ch gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid i'ch helpu i roi'r gorau i droseddu.
  • Os na fyddwch yn gwneud y gwaith, BYDD y Llys yn cael gwybod am hyn os byddwch yn cyflawni unrhyw droseddau eraill.
  • BYDD hyn yn cael ei gofnodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC), a gallai ymddangos ar wiriadau penodol fel DBS Manwl. 
  • Mae hwn yn ganlyniad ffurfiol yn sgil Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys.
  • Mae'n RHAID i chi gwblhau'r cynllun gwaith y cytunoch chi yn ei gylch yn eich cyfarfod Biwro.
  • Os na fyddwch yn cydymffurfio â hyn, efallai y cewch eich anfon i'r Llys.
  • BYDD hyn yn cael ei gofnodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) a bydd yn ymddangos ar rai gwiriadau fel DBS Manwl.

Ar ôl cyflawni'r canlyniad, bydd y Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid wedyn yn gweithio gyda'r plentyn ar y Cynllun Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys y cytunwyd arno er mwyn cefnogi'r plentyn. 

Os oes diffyg ymgysylltu â'r broses, bydd yr achos yn cael ei atgyfeirio yn ôl at yr heddlu, lle gellid gwneud penderfyniad i restru ar gyfer y Llys. 

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch y ffilm fer hon.