Dioddefwyr a Dulliau Adferol

Rydym yn annog plant i gymryd cyfrifoldeb am y niwed a'r golled y maent wedi'i hachosi i'r rhai sydd wedi dioddef trosedd a chytuno ynghylch ffyrdd o wneud iawn. Gelwir hyn yn ddull adferol. Gwneir hyn drwy weithio gyda dioddefwyr a gwrando ar eu barn ynghylch sut y gall y plentyn unioni'r niwed y mae wedi'i achosi.

Mae llawer o ddioddefwyr wedi canfod bod cymryd rhan yn y broses gyfiawnder yn eu helpu i ddelio â'r emosiynau anodd y gallent eu profi ar ôl y drosedd.

Sut rydym yn gweithio gyda dioddefwyr

  • Cyfleu eu barn am yr effeithiau y mae'r drosedd wedi'u cael arnynt.
  • Gall dioddefwyr fynd i gyfarfodydd panel sy'n cynnwys y plentyn, gweithiwr tîm cyfiawnder ieuenctid a gwirfoddolwyr o'r gymuned.
  • Trwy helpu i benderfynu pa fath o waith gwneud iawn y bydd y plentyn yn ei wneud.
  • Cytuno i'r plentyn ysgrifennu llythyron yn ymddiheuro.
  • Cymryd rhan mewn proses cyfiawnder adferol a/neu fod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r plentyn.

Sut mae dioddefwyr yn cael eu cefnogi os ydynt yn dewis cymryd rhan?

  • Bod rhywun yn gwrando'n astud arnynt a bod eu barn yn cael eu hystyried. 
  • Cyswllt a chefnogaeth gan ein Swyddog Dioddefwyr.
  • Cael gwybodaeth am y plentyn a'i gynnydd mewn perthynas â gwaith yn ymwneud â dioddefwyr drwy gydol y gorchymyn. 
  • Atgyfeirio at wasanaethau eraill os yw'n briodol.