Gwirfoddoli
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/03/2025
Cefnogir y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid gan wirfoddolwyr o'r gymuned sy'n gweithredu fel aelodau o banel Gorchymyn Atgyfeirio.
Fel rhan o'r panel, byddwch yn cwrdd â phlant sydd wedi cyflawni trosedd ac sydd wedi cael eu dedfrydu gan Lys Ieuenctid, yn ogystal â'u teuluoedd ac o bosibl dioddefwyr eu troseddau.
Bydd gwirfoddoli i weithio gyda'n tîm yn addas ar eich cyfer chi os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi plant sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu. Mae gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant llawn, cefnogaeth a chostau teithio.
Beth yw gwirfoddolwr addas?
- Mae gennych ddiddordeb mewn plant a dealltwriaeth ohonynt.
- Rydych chi'n byw yn Sir Gaerfyrddin neu'n agos ati.
- Mae gennych ychydig o oriau ar gael i'w cynnig bob mis.
- Mae gennych sgiliau personol rydych yn teimlo y gallwch eu cynnig i'r rôl.
- Yn ddelfrydol rydych yn meddu ar drwydded yrru ac yn gallu defnyddio car.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, ffoniwch 01554 744 322 neu anfonwch neges e-bost at yss@sirgar.gov.uk