Llys Ieuenctid

Mae staff Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn mynd i Lys Ieuenctid Llanelli i gefnogi plant ac yn ymddangos ar gyfer gwrandawiadau troseddol. Rydym hefyd yn cynorthwyo plant yn Llys y Goron Abertawe.

Mae hyn yn caniatáu i riant/rieni/gofalwr/gofalwyr gael gwybodaeth am yr achos ac i ofyn cwestiynau am yr achos a'r cymorth rydym yn ei gynnig. Fe'ch cynghorir i gael eich cynrychioli gan gyfreithiwr yn y Llys. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cyfreithiwr ar ddyletswydd yn bresennol ar y diwrnod i weithredu ar ran plentyn.

Os bydd yr Ynadon yn penderfynu dedfrydu plentyn i orchymyn Llys, rydym yn cwblhau Gorchymyn Atgyfeirio ac Adroddiadau Cyn Dedfrydu sy'n rhoi gwybodaeth i'r Ynadon/Barnwr am anghenion plant a sut y gallwn gefnogi plant i roi'r gorau i droseddu. 

Mae'r Ganolfan Gyfreithiol Cyfiawnder Ieuenctid wedi creu fideo defnyddiol, sy'n esbonio beth sy'n digwydd a beth allwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch chi'n mynd i Lys Ieuenctid.

 

Rhaglen Cymorth Mechnïaeth

Gallwn hefyd gefnogi plant ar Raglenni Cymorth Mechnïaeth, sef cyfnod wrth aros am ddedfryd.

Gall hwn fod yn gyfnod pryderus iawn i blant a'u teuluoedd, oherwydd gall ymddangos mewn achos ffurfiol fod yn brofiad brawychus p'un a ydynt wedi cael unrhyw ran flaenorol yn y system neu wedi bod yn y llys. Byddwn yn cynnig cefnogaeth a chyngor i blant a'u teuluoedd; ac mae ganddynt ddyletswydd statudol (o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998) i gynnig gwasanaethau mechnïaeth a remánd sy'n bwrpasol i amgylchiadau unigol y plentyn a gwrthwynebiadau i fechnïaeth. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i sefydlu perthynas â phlant a fyddai efallai'n cael Gorchymyn Llys yn ddiweddarach.

 

Gorchmynion Llys Gwahanol

Fel arfer rhoddir Gorchymyn Atgyfeirio i blentyn 10-17 oed sy'n pledio'n euog am drosedd yn ystod ei ymddangosiad cyntaf yn y Llys. Mae'r unig eithriadau mewn achosion bach iawn neu os yw'r Llys yn penderfynu bod y drosedd mor ddifrifol fel bod angen dedfryd o garchar. Gellir gwneud Gorchymyn Atgyfeirio am o leiaf 3 mis ac uchafswm o 12 mis. 

Yn dilyn yr ymddangosiad yn y Llys, bydd disgwyl i'r plentyn fynd i gyfarfod panel, er mwyn cytuno ynghylch contract sy'n cynnwys ymyriadau i'w cefnogi i beidio ag aildroseddu. Bydd disgwyl i'r plentyn gwblhau gwaith gwneud iawn yn y gymuned a datrys niwed i'w ddioddefwr/dioddefwyr. Mae'r paneli yn cynnwys staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a gwirfoddolwyr sy'n cynrychioli'r gymuned. 

Pan fydd y Gorchymyn wedi'i gwblhau bydd eich euogfarn wedi'i disbyddu. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un amdano, ac ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl yr hawl i wybod amdano. Yr unig eithriad yw os ydych yn gwneud cais am swyddi penodol, er enghraifft, gweithio gyda phlant. 

Gelwir y ddedfryd gymunedol sydd ar gael i blant yn Orchymyn Ailsefydlu Ieuenctid (YRO). Gall Gorchymyn Ailsefydlu Ieuenctid bara rhwng 3 mis a 3 blynedd.  

Mae nifer o ofynion sy'n gallu bod ynghlwm wrth y Gorchymyn Ailsefydlu Ieuenctid. Gallai'r rhain gynnwys:

  • Gofyniad goruchwylio - Derbyn cymorth a chyngor ynghylch ystod eang o ymyriadau. 
  • Cyrffyw gyda gofyniad cyrffyw electronig - Bydd plentyn yn cael amser cyrffyw gan y Llys. Bydd hyn yn cael ei fonitro gan gwmni electronig.
  • Gofyniad gweithgaredd - Bydd gofyn i blentyn fynd i weithgareddau penodol yn y gymuned gan gynnwys prosiectau gwneud iawn er mwyn caniatáu i blant wneud pethau cadarnhaol yn Sir Gaerfyrddin i ddatrys y niwed y maent wedi'i achosi. 
  • Gofyniad goruchwylio a gwyliadwriaeth ddwys - Mae'r oruchwyliaeth ddwys hon yn cynnwys 25 awr yr wythnos o oruchwyliaeth a gweithgareddau, gan gynnwys addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a bydd y plentyn yn cael cyrffyw ac yn cael ei dagio'n electronig. Gall hyn hefyd gynnwys gweithgareddau ar benwythnosau.

Mae dau fath o ganlyniadau o ran dedfrydau yn y Llys i blant sydd wedi cyflawni troseddau difrifol.

I ddechrau, gall y Llys Ieuenctid roi plentyn ar remánd mewn Llety Cadw Ieuenctid, sy'n llety diogel sydd wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion y plentyn a chadw'r cyhoedd yn ddiogel. Gall plentyn aros ar remánd neu ei fechnïo i gyfeiriad priodol, yn dibynnu ar benderfyniadau'r Llys mewn gwrandawiadau yn y dyfodol hyd at ddyddiad dedfrydu'r plentyn.

Gall plant hefyd gael dedfrydau o garchar, a'r mwyaf cyffredin a ddefnyddir yw Gorchymyn Cadw a Hyfforddi, ond dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol y cânt eu rhoi. Y nod yw darparu hyfforddiant ac addysg a chefnogi plant, fel nad ydynt yn aildroseddu pan gânt eu rhyddhau. Caiff plant eu cefnogi a'u goruchwylio gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn ystod eu dedfryd mewn lleoliad carcharu, a hefyd pan gânt eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned, pan fyddant yn destun amodau'r drwydded.