Oedolion Priodol

Gall ein cyfranogiad ddechrau yng ngorsaf yr heddlu i gefnogi plant pan gânt eu cyfweld gan yr Heddlu. 

Rôl yr Oedolyn Priodol yw sicrhau bod hawliau sylfaenol plant rhwng 10 a 17 oed yn cael eu bodloni, eu bod yn deall popeth a ddywedir wrthynt a'u bod yn cael eu trin yn deg o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE). 

Gall rhieni hefyd weithredu fel Oedolyn Priodol.