Prosiectau Gwneud Iawn
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/03/2025
Mae plant yn cymryd rhan mewn prosiectau gwneud iawn a ddarperir gan y tîm fel rhan o'u Gorchmynion Llys.
Rydym yn annog plant i ddatblygu sgiliau ymarferol wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau sy'n rhoi rhywbeth yn ôl i'n cymuned yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r tîm sgiliau gwneud iawn bob amser yn chwilio am gysylltiadau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Yr unig gais sydd gennym yw eich bod yn cyflenwi'r deunyddiau ar gyfer y prosiect. Os hoffech gael mainc wedi'i gwneud ar gyfer eich prosiect cymunedol lleol neu os oes gennych unrhyw syniadau eraill yr hoffech i ni eu cyflawni yn eich cymuned, cysylltwch â ni.