Rhaglen Atal Troseddu

Rydym yn cynnig cymorth atal i blant rhwng 8 a 17 oed, sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin ac a allai fod ar fin troseddu a/neu ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydym hefyd yn cefnogi eu teuluoedd/gofalwyr.

Ein nod yw canolbwyntio ar atal troseddu a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal â darparu gwaith ymyrraeth un i un pwrpasol. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cymorth unigol a gallwn hefyd gysylltu â'n cydweithwyr yn y Tîm Ôl-16, y Tîm Cyffredinol, a'r gwasanaethau gwaith ieuenctid mewn ysgolion yn ein gwasanaeth ehangach.  

Gall unrhyw sefydliad wneud atgyfeiriad neu gall rhiant/gofalwr wneud hunanatgyfeiriad. I gael rhagor o wybodaeth a/neu ffurflen atgyfeirio cysylltwch â ni.