Ymyriadau
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/03/2025
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ymyriadau i gefnogi plant i newid eu hymddygiad troseddol.
Gellir cyfeirio plant sy'n ymwneud â'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid at ein Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau - Cyfiawnder Ieuenctid.
Rydym yn darparu cymorth, addysg, arweiniad a chyngor ynghylch lleihau niwed i blant sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
Gallwn hefyd roi cyngor a gwybodaeth i rieni/gofalwyr.
Gall plant gael cymorth gyda'u haddysg, eu hyfforddiant a'u cyflogaeth.
Gall hyn gynnwys darparu cymorth ac arweiniad i blant mewn ysgolion, colegau, a'r rhai mewn cyflogaeth a phrosiectau cwricwlwm amgen.
Rydym hefyd yn cysylltu â sefydliadau eraill sy'n cynnig arweiniad neu gymorth addysg.
Meddwl ac Ymddygiad
Mae hyn yn cynnwys ymyriadau megis datblygu empathi a deall effeithiau ymddygiad plant ar eraill, gwrando a chyfathrebu â phlant am eu teimladau a'u pryderon, helpu gyda phroblemau o ran dicter ac ymddygiad ymosodol.
Arfau Ymosodol/Troseddau sy'n gysylltiedig â chyllyll
Cynnwys plant mewn gwaith i leihau'r niwed a achosir drwy gario arfau.
Ymwybyddiaeth o dân
Gall plant gyfeirio at Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fel bod eu hymwybyddiaeth o risgiau cysylltiedig â thân yn gwella. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni fel Troseddau a Chanlyniadau a'r Prosiect Phoenix.
Troseddau sy'n gysylltiedig â cheir
Cynnwys plant mewn gwaith addysgol sy'n gysylltiedig â throseddau sy'n ymwneud â cheir
Trais yn sgil yfed alcohol
Gall plant sydd wedi cyflawni troseddau treisgar gymryd rhan yn rhaglen Addewid Paul. Mae'r rhaglen hon yn caniatáu i blant ddeall canlyniadau posibl trais yn erbyn eraill.
Ymddygiad rhywiol niweidiol
Rydym yn cefnogi plant sy'n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol trwy weithio gyda'r pryderon a gyflwynir a datblygu cynlluniau diogelwch, ynghyd â datblygu dealltwriaeth o'r gyfraith (gan gynnwys secstio a seiberfwlio).
Emosiynol ac Iechyd Meddwl
Rydym hefyd yn cefnogi plant gyda'u hanghenion emosiynol ac iechyd meddwl a gallwn weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a gwasanaethau fel 'Iechyd da'.