Yr Amgylchedd Naturiol
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/07/2025
Mae Swyddogion yn yr Amgylchedd Naturiol a Chynaliadwyedd yn cyflawni ystod eang o swyddogaethau, gan weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol.
Dros y 3 mis diwethaf mae'r gwaith yr ydym wedi'i wneud yn cynnwys y canlynol:
Mae tai ystlumod yn Brynmefys wedi'u cwblhau ac yn cael eu defnyddio gan ystlumod a gwenoliaid, gan sicrhau bod gan ystlumod le arall i glwydo yn lle'r eiddo adfeiliedig yr oedd angen eu dymchwel yn fawr. Mae hyn wedi bod yn gydweithrediad rhwng Ecolegwyr y Prosiect, Dylunio Eiddo a Thai.

Mae blychau ystlumod yn cael eu gosod mewn tai newydd yn Brynmefys i sicrhau bod gan ystlumod le arall i glwydo yn lle'r rheiny a gollwyd wrth ddymchwel yr eiddo adfeiliedig. Mae hyn wedi bod yn gydweithrediad agos rhwng Ecolegwyr y Prosiect, Dylunio Eiddo a Thai.

Swyddog/swyddogion: Jacqueline Bond/Rhian Lewis
Roedd y Swyddogion Coedyddiaeth wedi goruchwylio'r gwaith o osod Cellweb 3D i warchod gwreiddiau coed yn ystod y datblygiad yn Ysgol Dyffryn Aman. Mae'r gwaith o adeiladu maes parcio bysiau newydd mewn ardal gwreiddiau coed aeddfed ac roedd angen datrysiad peirianneg 'dim cloddio' i warchod gwreiddiau'r coed. Gan gydweithio'n agos â pheirianwyr a staff adeiladu, roeddem yn gallu gosod datrysiad parhaol i warchod y ddaear heb darfu ar y gwreiddiau.
Swyddog/swyddogion: Stephen Edwards, Jason Winter

Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect cydweithredol i wella nodweddion wal gerrig ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli.
Dyluniwyd y gwely uwch a'r seddau gan y Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac yna cawsant eu creu a'u gosod gan Hwb Sgiliau Cyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd cerflunydd pren lleol yn ychwanegu nodweddion mwy artistig at y prosiect dros y misoedd nesaf a byddwn hefyd yn llenwi'r blychau plannu blodau gydag amrywiaeth o blanhigion arfordirol brodorol.
Swyddog: Matthew Collinson
Roedd Ecolegwyr y Prosiect wedi goruchwylio gwaith i reoli a cheisio cael gwared ar Jac y Neidiwr wrth ymyl datblygiad Pentre Awel yn Nafen ym mis Gorffennaf/dechrau Awst eleni. Roedd hyn ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gwneud gwaith i'w reoli ymhellach i fyny'r afon. Cymerwyd gofal mawr i sicrhau nad oedd y gwaith yn effeithio ar ddyfrgwn, llygod y dŵr a thelor Cetti.
Swyddogion: Jacqueline Bond, Rhian Lewis
O hyn:

I hyn:/p>

Mae Wythnos Natur Cymru yn wythnos flynyddol o ddigwyddiadau a chodi ymwybyddiaeth o'n hamgylchedd naturiol ledled Cymru. Eleni, fe wnaethom drefnu digwyddiadau o amgylch y thema Golwg Fanylach, gan annog pobl i archwilio'r amgylchedd naturiol o'u cwmpas. Cafwyd digwyddiad ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain, a threfnodd y tîm Hamdden Awyr Agored saffari ar y traeth a thaith gerdded o amgylch Gwarchodfa Natur Leol Morfa Berwig. Gwahoddwyd swyddogion y cyngor i gyflwyno lluniau a derbyniwyd dros 20 llun. Dewiswyd llun Jacqueline Bond o ddiferion dŵr ar ddail yn ffefryn.
Efallai bod Wythnos Natur Cymru drosodd yn swyddogol ond mae rhywbeth i'w archwilio bob amser. Cymerwch olwg ar y tudalennau Bioamrywiaeth i gael llawer o wybodaeth a syniadau.
Swyddog: Isabel Macho

Coetir Pentremawr - Prosiect Grant Gwella Coetir (TWIG) Llywodraeth Cymru
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar brosiect TWIG Coetir Cymunedol Pentremawr ym Mhontyberem. Mae'r gweithgareddau wedi cynnwys gwaith arolwg ecolegol (bryoffytau, cennau, infertebratau a ffyngau); rheoli rhywogaethau anfrodorol goresgynnol (clymog Japan a choed llawrgeirios); gwella llwybrau; a digwyddiadau i ysgolion a'r gymuned (darlunio ystyriol; naddu; fforio a gwneud; a thaith gerdded hanesyddol a natur).
Un o'r uchafbwyntiau oedd cofnodi ffwng menyg cyll - rhywogaeth sy'n brin yn genedlaethol ac yn un sydd â blaenoriaeth yn y DU. Gallwch chi ddod o hyd iddi yn bennaf yng nghoed cyll yr Iwerydd ar arfordir gorllewinol yr Alban!
Swyddog: Gus Hellier







