Pecynnau band eang a ffôn rhatach
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2025
Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn gostyngol ar gyfer pobl gymwys sy’n derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn:
Band eang
Mae tariffau cymdeithasol yn rhatach na phecynnau band eang safonol, ond fel arfer mae ganddynt yr un cyflymder ac ansawdd. Maent wedi'u cynllunio i fod yn fwy fforddiadwy ac yn aml fe'u gelwir yn fand eang "hanfodol" neu "sylfaenol" gan ddarparwyr.
Symudol
Mae tariffau symudol cymdeithasol yn gontractau ffôn symudol rhatach na bargeinion rheolaidd. Maent wedi'u cynllunio i helpu aelwydydd i fforddio aros yn gysylltiedig ar gyfer cyfathrebu, gofal iechyd, addysg ac adloniant.
Mae gwybodaeth pellach i gael ar y gwefannau canlynol: