Cymorth Bwyd Argyfwng - Grant Cyfalaf
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/07/2025
Cymorth Bwyd Argyfwng – Grant Cyfalaf
Amcan y gronfa yw cefnogi mentrau sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n gronfa cyfalaf i gefnogi sefydliadau i ehangu cynhyrchu a darparu bwyd cymunedol.
Mae'r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau o 29 Gorffenaf 2025 a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 12yp ar 26 Awst 2025. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu ac os byddant yn llwyddiannus, bydd prosiectau'n gallu dechrau ar diwedd Mis Medi 2025. Bydd angen i chi gorffen y prosiect a hawlio popeth erbyn 31 Ionawr 2026.
Ymhlith yr enghreifftiau o bryniant cymwys y mae:
- Celfi Cegin e.e. Arwynebau gwaith, cabinetau ac unedau cegin,
- Oergelloedd a rhewgelloedd
- Cyfarpar coginio e.e. – Cwceri, Cwceri Araf
- Cyfarpar cegin e.e. Offer coginio, cyllyll a ffyrc
- Storfa ar gyfer nwyddau mewn caniau/sych
- Offer Garddio/Tyfu
Sylwch nad yw hon yn rhestr gyflawn.
Gall grŵpiau cyfansoddedig gwneud cais am uchafswm o £5,000 a lleiafswm o £1,000.
Rhaid i'r ymgeiswyr gysylltu â'r Biwro drwy ffonio 01269 590216 neu fel arall drwy e-bostio Biwro@sirgar.gov.uk i gofrestru'r prosiect ac i gael Ffurflen Gais.