Mannau Cynnes a Diogel 25-26

Amcan y gronfa yw cefnogi lleoedd diogel a chynnes o fewn y gymuned leol y gallai pobl fynd iddi ar draws Sir Gaerfyrddin y gaeaf hwn (25-26).  Rydym yn croesawu ceisiadau i gefnogi mentrau sy'n darparu amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion lleol

  • Rhaid i’r mannau cynnes fod ar agor o leiaf 8 awr yr wythnos.
  • Gall sefydliadau wneud cais am uchafswm o £3,500 ac isafswm o £1,000.
  • Rhaid i sefydliadau wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, a/neu gynrychioli, gwasanaethu a chefnogi pobl yn Sir Gaerfyrddin
  • Rhaid fod yn grŵp cymunedol cyfansoddiadol neu'n elusen gofrestredig neu'n sefydliad corfforedig elusennol wedi'i leoli yng Nghymru, Cyngor Tref neu Chymued. 
  • Fydd cyllid yn mynd tuag at costau refeniw fel gorbenion, costau gwirfoddoli, lluniaeth a gweithgareddau.

Dyddiad cau cyflwyno – 12yp ar 8 Hydref, 2025.

Rhaid cwblhau a thalu am weithgareddau erbyn 16 Mawrth, 2026.

Hawliad terfynol i'w gyflwyno erbyn 31 Mawrth, 2026.

Oherwydd y cyllid cyfyngedig sydd ar gael, rydym yn rhagweld y bydd y gronfa hon yn cael ei gordanysgrifio'n fawr.  Felly, ni fyddwn yn gallu ariannu pob cais. 

Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â'r Biwro ar 01269 590216 neu drwy e-bost, biwro@sirgar.gov.uk, i gofrestru eich prosiect a gwneud cais am ffurflen gais.