Bwyd Sir Gâr Food
Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i nod yw datblygu system fwyd lewyrchus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn ledled y sir. Mae partneriaethau bwyd yn dod â phartneriaid o amrywiaeth owahanol sectorau at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael ag ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb.
Ymhlith y partneriaid allweddol yn Sir Gaerfyrddin y mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Synnwyr Bwyd Cymru a Chastell Howell.
Mae effaith Bwyd Sir Gâr Food yn ymestyn ar draws y sir ac mae prosiectau a mentrau diweddar wedi cynnwys:
- Gweithredu rhaglen beilot sy'n archwilio caffael cyhoeddus lleol a chynaliadw
- Datblygu prosiect cymunedol drwy Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
- Datblygu prosiect Prydau Ysgol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru
- Gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy brosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion
- Gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i helpu i lunio Strategaeth Fwyd ar gyfer y Bwrdd mGwasanaethau Cyhoeddus
- Bod yn rhan o Gylch Peiriannau a ddatblygwyd ac a ddarperir gan Social Farms & Gardens a fydd yn galluogi tyfwyr ar raddfa fach i fenthyg peiriannau i'w defnyddio ar eu tir yn Sir Gaerfyrddin
Gwybodaeth Gymunedol
Rhandiroedd a Chyfleoedd Tyfu Cymunedol
Biwro
- Fideo Biwro
- Cronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol
- Urddas Mislif
- Cefnogaeth Tlodi
- Mentrau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin
Bwyd Sir Gâr Food
Mwy ynghylch Gwybodaeth Gymunedol