Sut mae'r trosglwyddo asedau wedi gweithio?

Cyngor Tref Cydweli 

Rydym yn falch o fod wedi derbyn trosglwyddiad ased y toiled cyhoeddus yng Nghydweli gan y Cyngor Sir. Roeddem yn gallu sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwelliannau pellach. Mae toiledau modern, newydd Cyngor Tref Cydweli wedi'u lleoli ar Sgwâr y Dref, sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar fel rhan o fenter/cydweithrediad 10 Tref rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli. Mae gan y bloc toiledau do gwyrdd sy'n gorchuddio'r ddau doiled hygyrch, i'r ddau ryw. Mae'r cyngor tref wedi cytuno i beidio â chodi ffi mynediad, felly mae'r toiledau yn rhad ac am ddim i'w defnyddio.

Cyngor Cymuned Meidrim

Mae'r Cyfleusterau Cyhoeddus bellach ar agor yn fwy rheolaidd, yn cael eu rhedeg yn well ac yn cael eu cadw'n lanach nag o'r blaen. Rydyn ni'n ffodus i gael gofalwr da iawn yr ydym yn ei dalu i lanhau a chadw llygad ar bopeth.

Crazie Crepes Café 

Crazie Crepes Café yn Harbwr Porth Tywyn oedd ein ased cyntaf a drosglwyddwyd i fusnes lleol. Cyn Crazie Crepes Café roedd bloc toiledau. Yn anffodus, oherwydd lefelau eithafol o fandaliaeth yn barhaus, doedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddim dewis ond cau'r cyfleuster. Yn ddiweddarach, trawsnewidiwyd y cyfleuster yn Crazie Crepes Café sydd bellach yn llwyddiannus. Cytunwyd i drosglwyddo'r ased o dan yr amod y byddai toiled cyhoeddus awyr agored ar gael i'r cyhoedd.

 

Pa asedau eraill sydd wedi'u trosglwyddo?

Isod fe welwch restr o'n holl doiledau cyhoeddus sydd wedi'u trosglwyddo'n flaenorol i Gynghorau Cymuned, Sefydliadau a Pherchnogion Busnes.

 

  • Canol Pentref Abergorlech
  • Parc Canol y Dref, Rhydaman
  • Maes Parcio Co-op, Rhydaman
  • Brechfa, Canol y Pentref
  • Harbwr Porth Tywyn (Gorllewin)
  • Harbwr Porth Tywyn (Dwyrain) 
  • Parc Caerfyrddin 
  • Cenarth, ger y Parc
  • Cynwyl Elfed 
  • Ffaldybrenin
  • Ffarmers
  • Sgwâr Cwmaman
  • Canol Pentref Gors-las
  • Sgwâr Castell Cydweli
  • Canol Pentref Llanboidy
  • Llanddowror 
  • Llandybïe
  • Doc y Gogledd, Llanelli
  • Llansawel 
  • Sgwâr Llanybydder
  • Maes Parcio Meidrim 
  • Neuadd Gymunedol y Meinciau
  • Neuadd y Farchnad, Castellnewydd Emlyn
  • Pen-y-groes
  • Wilkes Head, Llandysul
  • Hendy-gwyn ar Daf