Deddf Rhyddid Gwybodaeth - Cyfleusterau Cyhoeddus

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan unigolion yr hawl i ofyn am wybodaeth gan awdurdodau cyhoeddus. Er mwyn gwneud y broses hon yn haws ac yn fwy effeithlon, rydym wedi llunio manylion allweddol sy'n ymwneud â thoiledau cyhoeddus yma. Cyn cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth ffurfiol rydym yn eich annog i edrych ar yr adnoddau sydd ar gael ar y dudalen hon.

Rydym wedi dehongli 'toiled cyhoeddus' fel ein hadeiladau annibynnol at ddefnydd toiledau cyhoeddus yn unig. Nid yw'r manylion hyn yn cynnwys toiledau hygyrch ychwanegol i'r cyhoedd fel y rhai sydd wedi'u lleoli mewn canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, parciau gwledig, marchnadoedd, ac ati....

Ar hyn o bryd mae 18 o gyfleusterau cyhoeddus yn cael eu gweithredu gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae 27 o doiledau cyhoeddus ychwanegol yn cael eu rheoli gan Gynghorau Cymuned ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae pob un o'r 18 toiled cyhoeddus annibynnol a weithredir gan y Cyngor Sir yn hygyrch.

Mae'r refeniw yn cyfrannu tuag at gostau rhedeg y cyfleusterau. Nid yw'r refeniw a gynhyrchir yn cwmpasu'r gost o redeg y cyfleusterau.

Cyfanswm nifer y toiledau cyhoeddus a weithredir gan y Cyngor ar gyfer pob blwyddyn rhwng 2014 a 2024:

  • 2014 – 45
  • 2015 – 39
  • 2016 – 20
  • 2017 – 21
  • 2018 – 20
  • 2019 – 19
  • 2020 – 18
  • 2021 – 17
  • 2022 – 17
  • 2023 – 18
  • 2024 – 18

Rydym wedi trosglwyddo 22 o doiledau cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn.

Ar hyn o bryd, dim ond pum busnes sydd wedi cofrestru'n ffurfiol i gymryd rhan. Mae'r mwyafrif o fusnesau wedi gwrthod y cynllun oherwydd dibenion yswiriant a phryderon am fandaliaeth a chamddefnydd.

Cynllun Toiledau Cymunedol - Cyngor Sir Caerfyrddin

 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw bolisïau ar waith, fodd bynnag, mae ein holl doiledau hygyrch ar gael i'w defnyddio ac wedi'u marcio ar ein map Yn Fy Ardal. Mae cyfanswm o 76 o doiledau wedi'u rhestru ar y map hwn sydd naill ai'n cael eu rheoli gan CSC, Cynghorau Cymuned neu Gynghorau Tref, Busnesau neu Sefydliadau.

18 o doiledau cyhoeddus annibynnol, 28 o doiledau hygyrch mewn adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor neu'n cael eu rhedeg ganddo, 27 sy'n cael eu rheoli gan Gynghorau Cymuned neu Gynghorau Tref/Sefydliadau, 3 busnes.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ionawr 2025, mae'r cynnig i gau cyfleusterau cyhoeddus wedi'i dynnu o'r Cynnig o ran y Gyllideb ar gyfer 2025/26. Mae hyn yn golygu nad yw toiledau cyhoeddus Cyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd mewn perygl o gau.