Argyfwng ffoaduriaid Wcráin - sut alla'i helpu?

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/10/2024

Mae dros flwyddyn ers dechrau'r gwrthdaro yn Wcráin ac mae Sir Gaerfyrddin yn dal i helpu i gefnogi rhai o'r ffoaduriaid sy'n dod i'r DU o Wcráin.

Mae bron i chwe mil a hanner o Wcreiniaid wedi adleoli yng Nghymru ers mis Mawrth 2022, ac fel sir rydym wedi croesawu dros 360 o unigolion a theuluoedd ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu teuluoedd sy'n ffoi o'r gwrthdaro.

Rydym yn gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth mae pobl wedi'i dangos eisoes, ond rydym yn dal i chwilio am bobl a all ein helpu ni i helpu teuluoedd i addasu i'w cartref a'u bywyd newydd yma, yn Sir Gaerfyrddin.

Rydym am allu cynnig ystod lawn o gymorth, i deuluoedd o Wcráin a theuluoedd sy'n barod i'w derbyn. Bydd hyn yn cynnwys tai, cyflogaeth, addysg, diogelu a chymorth emosiynol.

Dyma rai o'r pethau y gallech chi eu gwneud i helpu:

  • Croesawu teulu o Wcráin i'ch cartref am ychydig fisoedd, hyd nes y gellir dod o hyd i gartref parhaol. Os gallwch gynnig lle diogel i aros i aelwyd o Wcráin, cysylltwch â ni fel y gallwn roi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy'n gysylltiedig â hynny. Gallwn helpu i'ch paru â theulu.
  • Sicrhau bod cartref ar gael i'w rentu i deulu o Wcráin.
  • Cyfieithu ieithoedd Wcreineg neu Rwsieg

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd gyda'r nod o annog mwy o bobl i gofrestru fel lletywyr i ddarparu llety i Wcreiniaid yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch yn cynnig taliad o £500 y mis fel diolch, yn ogystal â’r gefnogaeth arall sydd ar gael nad yw'n ariannol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: llyw.cymru/cynnigcartref

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech helpu, e-bostiwch ni: Ukrainecrises@sirgar.gov.uk

I gael gwybod rhagor am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.