Cymorth gan Ymgynghorydd

Cymorth. Cefnogaeth. Cyngor

 

Rydym yn deall pa mor heriol y gall hi fod pan fo angen cymorth arnoch chi ond nad ydych yn gwybod ble i droi. Rydym yma i chi.

Mae ein tîm o ymgynghorwyr yn barod i'ch helpu yn ein tri phrif HWB: Caerfyrddin, Rhydaman, a Llanelli.

Gwnewch apwyntiad sy'n gyfleus ichi gydag Ymgynghorydd Hwb. Gall eich helpu i hawlio'r hyn y mae hawl gennych ei gael. Mae hyn yn cynnwys budd-dal tai a cheisiadau am fathodynnau glas.

TREFNU APWYNTIAD

 

  • Mae'r HWB yn gweithio ar sail apwyntiad, fel eich bod yn cael eich gweld ar adeg a dyddiad sy'n gyfleus ichi.
  • Gallwch drefnu apwyntiadau drwy glicio ar y botwm "trefnu apwyntiad," neu gallwch ein ffonio.
  • Byddwch yn brydlon ar gyfer eich apwyntiad. Os na, efallai y bydd gennych lai o amser yn yr apwyntiad, neu efallai y bydd yn cael ei aildrefnu neu ei ganslo.
  • Byddwn yn anfon cadarnhad atoch mewn neges e-bost neu neges destun gan nodi amser a dyddiad eich apwyntiad.
  • Dewch â'r holl ffurflenni a'r dogfennau perthnasol wedi'u cwblhau i'ch apwyntiad.

 

Os byddwch yn ymweld â'r canolfannau HWB heb apwyntiad, byddwn yn ceisio rhoi cymorth cefnogaeth a chyngor ichi. Ond efallai y bydd angen apwyntiad arall arnoch i ddatrys eich ymholiadau.

Mae ein canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid HWB yn darparu ystod eang o gymorth, cefnogaeth a chyngor ar yr hyn sydd bwysicaf ichi. Bellach mae gennym swyddogion cyllidebu pwrpasol, yn ogystal â'n hymynghorwyr. Gallan nhw eich helpu â materion ariannol.

Mae sefyllfa pawb yn unigryw. Ond rydym yma i helpu. Gallwn eich cynorthwyo o ran gwneud cais am gymorth, gwasanaethau a chymorth ariannol nad ydych efallai'n gwybod bod gennych hawl iddyn nhw. Yn ogystal, rydym yn cynnig mynediad at wasanaethau llesiant eraill a allai fod o fudd ichi.

I ddechrau, mae angen ychydig o fanylion arnom. Llenwch ein ffurflen ar-lein. Bydd un o'n tîm yn eich ffonio ar amser addas neu'n anfon neges e-bost atoch o fewn pum diwrnod gwaith.

CYMORTH GAN YMGYNGHORYDD