Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Drwy'r Cyngor, mae Partneriaeth Natur Sir Gâr yn derbyn cyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru i greu a gwella mannau gwyrdd ar dir cyhoeddus. Mae cyllid hefyd yn cael ei ddosbarthu drwy Cadwch Gymru'n Daclus a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae gennym swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd wedi ymrwymo i roi prosiectau a ariennir gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar waith a gweithio gyda chymunedau. Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn canolbwyntio'n bennaf ar drefi ac ardaloedd o gwmpas trefi, neu'r rhai heb fawr ddim mynediad at natur, gyda'r nod o adfer natur lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae prosiectau blaenorol a chyfredol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhai sydd yn gwneud y canlynol:
- Annog blodau gwyllt a gwella bioamrywiaeth drwy newid arferion torri gwair.
- Plannu coed/coetir/perllan.
- Mentrau tyfu bwyd cymunedol, e.e. darparu rhandiroedd, polidwneli ac ati.
- Gwella/creu seilwaith gwyrdd - troi 'llwyd yn wyrdd'.
- Gerddi synhwyraidd cyfeillgar i natur.
Mae ein swyddog prosiect hefyd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i rannu arbenigedd a gwybodaeth am greu/gwella eu lle lleol ar gyfer natur.
Mae Prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Sir Gaerfyrddin am gasglu barn pobl er mwyn i ni weithio gyda'n gilydd i wella mannau gwyrdd lleol yn Sir Gaerfyrddin i bawb.
Ewch i’r tudalennau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i lenwi ein harolygon, cael mynediad i gyllid, clywed am ddigwyddiadau bywyd gwyllt a mannau gwyrdd, hyfforddiant, newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf ar brosiectau yn eich ardal.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Matthew Collinson drwy anfon e-bost.

Prosiectau a Gwblhawyd yn 2023 - 2024
Plannu Coed
Gwnaed gwaith plannu coed/perllannau/perthi ar safleoedd i wella mannau gwyrdd lleol drwy wella'r fioamrywiaeth leol a chreu mannau y gall preswylwyr lleol/plant ysgol eu mwynhau.
Canlyniadau:
- 2000 o berthi wedi'u plannu
- 55 o goed ffrwythau wedi'u plannu
- 55 o goed 'safonol'
- 13 safle gwahanol wedi'u plannu ar draws y sir
Meinciau â Blychau Plannu
Gosodwyd meinciau â blychau plannu mewn safleoedd ar draws y sir. Maent yn integreiddio planhigion peillio brodorol gyda seddi, a byddant hefyd yn darparu, drwy gôd QR, ddolen i'r llwyfan ymgysylltu ar-lein newydd, sy'n cynnwys holiadur arolwg.
Mae meinciau wedi'u lleoli mewn prosiectau presennol a safleoedd posibl yn y dyfodol ac yn ogystal â darparu seddi aromatig y gobaith yw y bydd yn helpu i gasglu barn y cyhoedd am eu Lle Lleol ar gyfer Natur!
Canlyniadau:
- 13 o feinciau â blychau plannu
Canolfan Gofal Dydd Ffordd y Faenor
Gan weithio gyda staff a chleientiaid y ganolfan gofal dydd, plannwyd perllan coed cymysg a pherthi brodorol, ynghyd â thri mainc â blychau plannu gyda phlanhigfeydd blodau gwyllt/perlysiau a matiau glaswellt rwber ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn. Er bod y safle wedi'i ffensio (ar gyfer rheolaeth ddiogel y Ganolfan Ddydd), bwriedir i'r safle hefyd fod ar gael i'r cyhoedd fel man cymunedol.
Canlyniadau:
- Perllan coed cymysg a pherthi
- Gardd synhwyrau hygyrch
Safle bridio ar gyfer adar arfordirol - Llanelli
Ym Mharc Dŵr y Sandy a Ffynnon Helig ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, cafodd adar arfordirol Llanelli fel gwenoliaid y môr gymorth gan ddarpariaeth llwyfannau nythu ar y ddau safle yma. Yn ogystal crëwyd ynys raean i ddarparu man nythu diogel.
Yn Ffynnon Helig darparwyd sgriniau i'r cyhoedd weld yr adar sy'n nythu ynghyd â phaneli gwybodaeth yn y ddau safle i esbonio'r bywyd gwyllt a allai gael ei weld yno.
Canlyniadau:
- 2 lwyfan nythu
- 1 ynys graean
- 1 gwâl i ddyfrgwn
- 2 sgrin gwylio bywyd gwyllt
- 3 phanel gwybodaeth

Gardd Natur y Garnant
Mae'r fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru a'u gwirfoddolwyr yn Nyffryn Aman yn croesawu cyllid ar gyfer gasebo yn eu Gardd Natur yn y Garnant. Roedd yn cynnwys nodweddion i ystlumod glwydo! Derbyniodd y grŵp gwpanau nythu Gwennol y Bondo hefyd a bydd safleoedd addas yn cael eu nodi yn 2024 lle gellir eu gosod a'u monitro.
Canlyniadau:
- 1 gasebo ar gyfer gardd bywyd gwyllt
- 130 o gwpanau nythu Gwennol y Bondo i'w gosod a'u monitro
Creu pyllau - Carmel
Crëwyd pyllau bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Carmel gan drawsnewid cornel cae a oedd yn brin o rywogaethau ac yn llawn brwyn i fod yn wlyptir bach. Bu Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gweithio gyda chontractwyr i greu pedwar pwll o ddyfnderoedd ac ardaloedd wyneb gwahanol a fydd yn cynyddu'r ystod o fywyd gwyllt sy'n cael ei ddenu atynt.
Canlyniadau:
- 4 pwll bywyd gwyllt
Rheoli planhigion ymledol dyfrol – Pluen Parot
Mae'r planhigyn ymledol dyfrol, Pluen Parot, wedi dod yn broblem gynyddol mewn safleoedd yn Llanelli a'r ardal gyfagos. Helpodd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ddechrau'r broses o'i reoli mewn dau safle - ym Mhwll Dafen a Chamlas Pen-bre, Llanelli.
Cafodd darnau bach eu symud yn y ddau safle - roedd rhaid cymryd gofal arbennig ar safle Camlas Pen-bre am fod y llygod dŵr gwarchodedig yn byw yno.
Bydd y dysgu o ddechrau gwaredu'r rhywogaeth ymledol hon yn y ddau safle hwn yn helpu i barhau â'r broses dros y blynyddoedd i ddod.
- 2 safle lle mae gwaith wedi dechrau i waredu Pluen Parot

Prosiectau a gwblhawyd yn 2022 - 2023
Prosiect Pryfed Peillio Lliedi
Nod y prosiect oedd gwella ardal a reolir eisoes gan Hamdden Awyr Agored, i wella'r glaswelltir a chynyddu cyfraniad y cyhoedd (gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio Llwybr Arfordirol y Mileniwm sydd gerllaw) drwy adfer/cyfnewid gwelyau garddwriaethol presennol y mae eu cyflwr wedi dirywio a phlannu pethau y mae pryfed peillio'n hoff ohonynt.
Allbynnau:
- Cafodd un ardal o laswelltir ei gwella drwy blannu dros 1000 o blygiau blodau gwyllt brodorol.
- Cafodd dros 30 o rywogaethau o flodau gwyllt a llwyni brodorol a detholiad o lwyni garddwriaethol eu plannu mewn gwelyau blodau newydd.
- Trefn torri porfa a chasglu flynyddol newydd wedi'i chyflwyno yn 2023 a llwybrau wedi'u torri drwy'r glaswelltir.
- Gosodwyd deg pwynt gwybodaeth ar lefel isel i greu llwybr hawdd i'r cyhoedd ei ddilyn.
- Gwestai pryfed wedi'u cynnwys yn y strwythurau a adferwyd.
Hen Faes Chwaraeon Ysgol Tre-gib
Mae hen faes chwaraeon Ysgol Tre-gib yn cwmpasu tua 5.5 hectar o laswelltir amwynder, gan gynnwys sawl ardal nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gynhelid yn rheolaidd. Roedd potensial sylweddol i wella bioamrywiaeth rhai o'r rhain trwy blannu coed coetir a pharcdir gan leihau costau cynnal a chadw ar yr un pryd.
Roedd ardal gyfagos o ffermdir y Cyngor yn cael ei phori gan geffylau, ac, er bod gan ardaloedd y potensial i ddod yn laswelltir llawn rhywogaethau roeddent mewn cyflwr gwael iawn. Roedd y potensial i greu coetiroedd ar rannau eraill o'r cae hwn hefyd wedi cael ei gydnabod a chafwyd grant Creu Coetir Glastir. Roedd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ategu'r plannu coetir hwn ac yn cefnogi ei weithrediad.
Allbynnau:
- Ffensys i stoc/ceirw a chorlannau a gatiau rheoli gwartheg.
- Pwll dŵr tymhorol ar gyfer anifeiliaid sy'n pori yn y ddôl newydd.
- 16 o goed parcdir a 300 o goed coetir bach fel llain gysgodi wedi'u plannu.
- Matiau mulch i arbed gorfod defnyddio plaladdwyr.
- Darparu mynediad drwy'r safle a phont i gysylltu â safle Tre-gib Coed Cadw.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Allbynnau:
- Bellach mae blodau peillio parhaol ar yr ardal laswelltog anodd ei chynnal y tu allan i Ganolfan Halliwell. Mae hon yn ardal brysur a fynychir gan fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
- Mae 1000 o fylbiau'r gwanwyn (gan gynnwys y saffrwm a'r lili wen fach) wedi cael eu plannu dan y coed aeddfed yn ardal y coetir.
- Y tu allan i adeilad Y Llwyfan, plannwyd clawdd ffawydd.
- Mae 37 o goed ffrwythau a chnau wedi'u plannu ar draws y campws.
- Prynwyd peiriant torri a chasglu a pheiriant naddu er mwyn gwella rheolaeth gynaliadwy y campws cyfan.
- Prynwyd tri chamera bywyd gwyllt, ynghyd â blychau ystlumod ac adar, a bydd y rhain yn cael eu monitro gan intern yn y Brifysgol fel rhan o brosiect cynaliadwyedd.
- Prynwyd polydwnnel a gwelyau blodau i ehangu safle'r rhandiroedd – a ddefnyddir gan grwpiau ysgolion lleol.
Cei Cydweli
Roedd pwll bywyd gwyllt mawr wedi siltio ers 1999 gan adael dim dŵr agored. Roedd prysgwydd helyg wedi goresgyn, ac roedd y pwll wedi troi'n gorsiog. Roedd hyn yn lleihau ei werth ar gyfer bywyd gwyllt ac fel lle i gerddwyr weld y rhywogaethau sy'n ei ddefnyddio, e.e. adar gwyllt, gweision neidr, ac ati ac roedd glaswelltiroedd yn cael eu colli i fieri. Roedd preswylwyr leol wedi gwneud sylwadau am ei ddirywiad.
Byddai adfer y pwll yn cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau o blanhigion a byddai ffensys yn caniatáu pori cadwraethol. Roedd cae yr oedd tenant wedi bod yn ei bori'n flaenorol wedi cael ei adael. Plannwyd coed yn yr ardal leiaf amrywiol dan grant creu Coetir Glastir, a chafodd y gweddill ei dorri a'i gasglu i ganiatáu pori cadwraethol.
Allbynnau:
- 1 pwll wedi'i adfer yn rhannol gan gadw cynefin corsiog sy'n gyforiog o rywogaethau.
- 1 gwâl dyfrgwn wedi'i osod gyda chyngor gan ecolegydd dyfrgwn lleol.
- 2 gae wedi'u torri a'u casglu a'u ffensio at ddibenion pori cadwraethol.
- 1 pwll dŵr tymhorol wedi'i greu i alluogi pori a llecyn wedi'i ffensio ar gyfer plannu coed.
- 1 diwrnod plannu coed cymunedol. Plannwyd coed o dan grant Creu Coetir Glastir.

Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Cwmaman yn 2002, creodd Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru ardd bywyd gwyllt gymunedol yn y Garnant er mwyn ymgysylltu â thrigolion lleol a sicrhau dealltwriaeth ehangach o fywyd gwyllt a chadwraeth natur.
Er mwyn cefnogi'r gwaith pwysig hwn, comisiynwyd contractwr lleol i ddylunio a gosod pwll a llwybr mynediad i bawb ar safle'r ardd gymunedol. Defnyddiwyd y rwbel i greu banc yn wynebu'r de. Prynwyd cynhwysydd i gadw offer hefyd.
Mae'r gwaith wedi gwella lle cymunedol lleol ar gyfer bywyd gwyllt ac i bobl ddysgu am fywyd gwyllt lleol a'i fwynhau. Mae'r llwybr mynediad i bawb bellach yn golygu bod mwy o bobl o wahanol oedrannau a galluoedd bellach yn gallu mwynhau gweld bywyd gwyllt a chyfrannu at fentrau cadwraeth natur lleol.
Allbynnau:
- 1 pwll bywyd gwyllt.
- 1 llwybr mynediad i bawb.
- 1 cynhwysydd i gadw offer.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Allbynnau Cyflawni'r Prosiect:
- Gweithdy ar reoli mannau gwyrdd.
- Gweithdy ar blannu coed/perllan.
- Ymweliadau safle â chwe safle i roi cyngor am welliannau bioamrywiaeth.
- Gwefan wedi'i chreu gydag adnoddau i wella bioamrywiaeth.
- Chwe thaflen gryno ddwyieithog y gellir eu lawrlwytho ynghylch syniadau gweithredu ar gyfer busnesau, cymunedau, unigolion, ysgolion a darparwyr twristiaeth.
Yn 2021-22, gan ddefnyddio'r cyllid hwn, prynwyd peiriannau torri gwair a oedd yn ein galluogi i ddechrau newid y ffordd rydym yn rheoli ein glaswellt ar draws ystad y Cyngor.