Biker Down! Cymru

Gan fod beicwyr modur yn dueddol o yrru mewn grwpiau neu barau, pan fydd un wedi cael damwain, beiciwr modur arall fel arfer fydd y cyntaf yno. Nod 'Biker Down!' yw lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffyrdd, a chaiff y cynllun ei weithredu gan Ddiffoddwyr Tân Gweithredol / Tîm Beiciau Modur Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r cwrs yn cynnwys tri modiwl:

  • Rheoli Lleoliad Damwain
  • Cymorth Cyntaf
  • Y Wyddoniaeth o Gael eich Gweld

Bydd y cwrs yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cyfranogwyr o beth i’w wneud os ydynt yn gweld damwain traffig ar y ffordd a sut i reoli’r sefyllfa yn ddiogel.

Beth yw pris y cwrs?

Diolch i Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwrs ar gael AM DDIM. Ar ôl cwblhau’r cwrs, caiff y cyfranogwyr pecyn cymorth cyntaf am ddim.

Pryd mae’r cwrs ar gael

  • Dydd Sul 25 Mai 2025, am 1:30pm, Fu3l Tank, Rhydaman
  • Dydd Mawrth 24 Mehefin 2025, am 6:30pm, Gorsaf Dan Llanelli

Gwnewch gais am le ar BIker Down! Cymru