ShopMobility

Beth yw ShopMobility?

Mae ShopMobility yn wasanaeth sy'n benthyg offer symudedd - fel cadeiriau olwyn â llaw, cadeiriau pŵer, a sgwteri symudedd - i helpu unigolion â symudedd cyfyngedig i fwynhau mwy o annibyniaeth wrth fynd yma ac acw.

Pwy sy'n gallu defnyddio Shopmobility?

Gall unrhyw un o unrhyw oedran ddefnyddio gwasanaethau lleol ShopMobility. Mae gwasanaeth Shopmobilty ar gyfer unigolion oedrannus, pobl ag anableddau cronig ac eraill hefyd. 
Os ydych chi'n gwella o lawdriniaeth, yn delio ag anaf dros dro, neu'n ei chael hi'n anodd cerdded pellteroedd hir, gall ShopMobility eich helpu.
Efallai eich bod wedi torri eich coes, yn teimlo'n wan ar ôl llawdriniaeth, neu'n gofalu am blentyn ag anghenion symudedd - beth bynnag yw eich sefyllfa, mae eich canolfan ShopMobility leol yma i'ch helpu i gadw i symud a chael mynediad at siopau ac amwynderau lleol yn rhwydd.

 

Ble y gallaf logi'r gwasanaeth?

Shopmobility Caerfyrddin

Lleoliad: Ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr Heol y Gwyddau yng Nghaerfyrddin, mae'r gwasanaeth mewn man delfrydol i gynorthwyo unigolion.
Cyfleusterau: Mae gennym hefyd doiled anabl sy'n ddigon mawr i sgwter.
Dyddiau ac Amseroedd Agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am – 3:45pm
Cost: £3 i logi am ½ diwrnod, £5 i logi am ddiwrnod llawn 
Rhif Ffôn: 01267 233699

Rhagor o wybodaeth

 

Shopmobility Llanelli

Lleoliad: Mae Shopmobility Llanelli yn 16 Stryd Cowell, Llanelli
Dyddiau ac Amseroedd Agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 9am – 4pm
Cost: £3 y dydd i logi 
Rhif Ffôn: 01554 775409

 

Sut i logi

Mae angen i chi fod yn aelod i logi'r offer - gallwch ymuno pan fyddwch yn llogi: dim ond 2 fath o ddogfennau adnabod sydd eu hangen arnoch.