Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/03/2026
Mae'r Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn yn cynnig sesiynau ymwybyddiaeth i yrwyr sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i aros yn hyderus, eich galluogi i fynd a dod fel y mynnoch a bod yn annibynnol ar y ffordd.
Mae'r sesiwn hanner diwrnod yn yr ystafell ddosbarth yn darparu amgylchedd dysgu hamddenol ac anffurfiol, dan arweiniad Hyfforddwr Gyrwyr profiadol. Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar gyngor ymarferol, y canllawiau diweddaraf, a thrafodaeth ynghylch gyrru'n ddiogel wrth i ni fynd yn hŷn.
Mae cyfranogwyr wedi dweud wrthon ni'n gyson pa mor werthfawr yw cael y cyfle i loywi eu gwybodaeth:
“Rwyf wedi ailddysgu llawer o bethau y dylwn i fod wedi gwybod ond rwyf wedi eu hanghofio dros y blynyddoedd”
“Gwnaeth hyn wir helpu fy hyder;
"Dylai pawb wneud y cwrs hwn - diolch i bawb”
“Gallaf i yrru o amgylch cylchfan Morrisons yn hyderus nawr."
Gwybodaeth am y cwrs
- Yn eich helpu chi i yrru'n fwy diogel am gyfnod hwy
- Deall sut y gall y broses o fynd yn hŷn effeithio ar yrru
- Trafod eich pryderon personol nawr ac yn y dyfodol
- Nodi arferion gyrru annefnyddiol y gallech chi fod wedi'u datblygu
- Diweddaru eich gwybodaeth am Reolau'r Ffordd Fawr
Nid yw'r cwrs yn gwneud y canlynol
- Nid yw'n profi eich sgiliau gyrru
- Nid yw'n asesiad ffurfiol
Mature Driver Review
Mae elfen yrru ddewisol i'r cwrs y mae pob un sy'n bresennol yn cael ei annog i'w gwneud.
Bydd yn rhoi adborth ymarferol, un i un i chi ynghylch eich gyrru. Gellir trefnu'r IAM RoadSmart Mature Driver Review, sydd wedi'i ariannu'n llawn ar ôl cwblhau'r Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn.
Faint mae'r cwrs yn ei gostio?
Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i drigolion Sir Gâr.
Argaeledd cyrsiau
- Dydd Mawrth 7 Ebrill 2026, 10am - 12:30pm, Parc Myrddin, Caerfyrddin


