Terfynau Cyflymder 20mya

Yr hyn rydyn wedi'i wneud hyd yma

Yn 2024, fe wnaethon ni ofyn i chi ddweud wrthon ni pa ffyrdd lleol ddylai barhau ar 20mya, a pha rai ddylai fod yn 30mya.

Daeth tua 1600 o sylwadau unigol i law. O blith y rhain, roedd 264 o blaid terfynau cyflymder 20mya, neu'n dymuno gweld gostyngiadau pellach i 20mya. Roedd 380 o ymatebwyr eisiau gweld pob ffordd yn dychwelyd i 30mya, neu eisiau terfyn cyflymder 20mya dim ond y tu allan i ysgolion ac ysbytai ac ati. Roedd gweddill yr ymatebwyr eisiau adolygiad o ffyrdd unigol yn y sir. 

Rydyn ni bellach wedi edrych ar eich awgrymiadau a'u hasesu yn unol â chanllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru.

Allwn ni ddim ymateb i bob sylw a ddaw i law. Allwn ni ddim gweithredu ar sylwadau sy'n ymwneud â'r polisi 20mya yn gyffredinol. Mater i Lywodraeth Cymru yw hwn.

Cwestiynau Cyffredin am yr Adolygiad o derfynau cyflymder 20mya

 

Ar 17 Medi 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru derfyn cyflymder 20mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd a oedd â therfyn cyflymder 30mya o'r blaen, yn bennaf mewn ardaloedd preswyl ac ardaloedd prysur i gerddwyr â goleuadau stryd. Roedd yn ofynnol yn gyfreithiol i gynghorau Cymru roi'r newid hwn ar waith, ond gallai rhai ffyrdd gadw terfyn cyflymder 30mya os oedden nhw'n bodloni meini prawf penodol sydd wedi'u nodi yng nghanllawiau'r llywodraeth.

Ers mis Ebrill 2024, mae 'Rhaglen Wrando' dan arweiniad Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi bod ar waith i gasglu barn y cyhoedd am y terfyn cyflymder 20mya. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob cyngor gasglu adborth gan drigolion. Ar 16 Gorffennaf 2024, cafodd canllawiau wedi'u diweddaru ar osod terfynau cyflymder eu cyhoeddi, ynghyd â Thaflen Asesu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Defnyddiodd swyddogion y cyngor y daflen hon i adolygu llwybrau yr oedd pobl wedi cais amdanyn nhw gyda'r nod o sicrhau dull cyson ar draws holl awdurdodau lleol Cymru.

Ym mis Ebrill 2024, cefnogodd y Cyngor Sir y Rhaglen Wrando Genedlaethol drwy lansio tudalen we bwrpasol lle gallai pobl ofyn am adolygiad o derfynau cyflymder 20mya ar rannau penodol o ffyrdd. Roedd y dudalen ar gael tan 31 Awst 2024 ac roedd modd cyflwyno adborth drwy lythyr, e-bost a ffôn hefyd.

Cafodd y cyngor gyfanswm o 1,604 o geisiadau unigol, yn bennaf gan aelodau o'r cyhoedd. Cafodd y rhain eu rhoi yn y categorïau canlynol:

  • Ceisiadau am adolygu darnau penodol o ffyrdd dosbarth A neu B (Cyfanswm darnau ffyrdd - 911)
  • Ceisiadau am adolygu ffyrdd dosbarth C neu ffyrdd diddosbarth (Cyfanswm darnau ffyrdd - 157)
  • Ceisiadau am i bob ffordd ddychwelyd i 30mya (121 o geisiadau)
  • Ceisiadau am i bob ffordd ddychwelyd i 30mya, ac eithrio'r rhai y tu allan i ysgolion, ysbytai, ac ati. (259 o geisiadau)
  • Cefnogaeth i gadw'r terfyn 20mya neu ostwng terfyn cyflymder mwy o ffyrdd i 20mya (264 o geisiadau)

Mae'n werth nodi bod llawer o'r ceisiadau yn gofyn am adolygu nifer o rannau o ffyrdd.

Yn dilyn y ceisiadau ar-lein, cafodd tua 150 o ddarnau o ffyrdd Dosbarth A a B eu hadolygu yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru a'r Daflen Asesu.

Dyma'r ffyrdd Dosbarth A a B y mae bwriad eu dychwelyd i derfyn cyflymder 30mya, yn amodol ar ymgynghori a'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig:

    • Yr A484 Cwmdwyfran (yn llawn)
    • Yr A484 Pentre Morgan (yn llawn)
    • Yr A484 Pentrecagal (yn llawn)
    • Y B4297 Heol y Bwlch, y Bynea (yn rhannol - am bellter o 600m o'r gyffordd â Heol Yspitty hyd at y gyffordd â'r Gerddi)
    • Y B4333 Hermon (yn rhannol – wrth agosáu at y pentref o gyfeiriad y de yn unig)
    • Y B4312 Llan-gain (yn rhannol – wrth agosáu at y pentref o'r ddau gyfeiriad)
    • Y B4312 Rhiw'r Gofeb, Caerfyrddin (yn llawn)
    • Y B4308 Heol Caerfyrddin, Cydweli (yn rhannol – wrth agosáu at y dref o gyfeiriad y de am bellter o tua 246m)
    • Y B4556 Ffordd Gyswllt Newydd, Pen-y-groes (yn llawn)
    • Y B4306 Heol y Parc, Yr Hendy (yn rhannol - o gyfeiriad Llan-non hyd at y gyffordd â Chlos Glyn Dŵr)
    • Y B4337 Llanybydder (yn rhannol) - am bellter o 150m wrth agosáu at Lanybydder o gyfeiriad y dwyrain o Dŷ Mawr

Yn ystod 2025/26 bydd swyddogion yn cynnal adolygiad o Ffyrdd Dosbarth 'C' a Ffyrdd Diddosbarth fel rhan o'r ail gam a bydd terfynau cyflymder clustogi wrth agosáu at y terfyn cyflymder 20mya presennol hefyd yn cael eu hadolygu o ran pa mor briodol ydyn nhw. Bydd yr adolygiad o derfynau cyflymder clustogi yn cael ei ystyried oherwydd sylwadau a ddaeth i law gan y cyhoedd ynglŷn â nifer y newidiadau graddol mewn terfynau cyflymder ar hyd rhannau cymharol fyr o'r ffordd. Felly y bwriad yw rhesymoli rhai o'r rhain er mwyn sicrhau llai o newidiadau a system terfyn cyflymder fwy cyson.

Gan ddefnyddio'r canllawiau, dechreuodd swyddogion drwy asesu pob ffordd yr oedd pobl wedi gwneud cais amdani yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Lleoliadau addysgol (o fewn 100m): gan gynnwys ysgolion, lleoliadau cyn-ysgol, sefydliadau addysg bellach ac uwch
  • Cyfleusterau cymunedol (o fewn 100m): fel neuaddau cymunedol, caeau chwarae, canolfannau chwaraeon, a lleoedd chwarae i blant
  • Cyfleusterau meddygol (o fewn 100m): gan gynnwys ysbytai, meddygfeydd a chanolfannau gofal dydd
  • Safleoedd preswyl a/neu fanwerthu: lle mae mwy nag 20 eiddo fesul cilometr ar ddwy ochr y ffordd, gan ystyried eu hagosrwydd, gwelededd, cynllun ffordd, a phwyntiau mynediad

Mae'r canllawiau asesu yn nodi os yw unrhyw un o'r meini prawf yn berthnasol i'r ffordd dan sylw, yna ni fyddai terfyn cyflymder 30mya yn briodol.

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf ar gael ar dudalen we Llywodraeth Cymru.

Cafodd pob cais yn ymwneud â ffyrdd A a B ei ystyried fel rhan o'r broses adolygu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Yn ystod 2025/26 bydd swyddogion yn cynnal adolygiad o Ffyrdd Dosbarth 'C' a Ffyrdd Diddosbarth fel rhan o ail gam.

Oherwydd y nifer uchel o geisiadau, dydyn ni ddim wedi gallu ymateb i bob un yn unigol. Fodd bynnag, gallwn ni eich sicrhau bod pob cais wedi'i gofnodi a'i ystyried yn ofalus.

Y camau nesaf fydd i swyddogion ddechrau ymgynghori ynghylch hyd arfaethedig y terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd Dosbarth A a B. Bydd y broses hon yn cynnwys ceisio barn y rhanddeiliaid statudol sy'n cynnwys yr aelod lleol, Cynghorau Cymuned/Tref, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaethau Ambiwlans, Cymdeithasau Cludo Nwyddau a'r gweithredwr bysiau perthnasol. Byddwn ni hefyd yn cysylltu â'r bobl hynny y mae eu tai yn wynebu'r ffordd y mae bwriad ei newid.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd penderfyniad wedyn yn cael ei wneud ynghylch a ddylai'r cynigion symud ymlaen i hysbysebu ar ffurf Hysbysiad Cyhoeddus sy'n ymwneud â'r Gorchymyn

Llwythwch mwy

 

Rhoi Gwybod am Bryderon ynghylch Goryrru 

Yr Heddlu a Gan Bwyll sy'n gyfrifol am y rôl o orfodi'r terfyn cyflymder presennol yn hytrach na'r Cyngor Sir, gan nad oes gennym unrhyw bwerau gorfodi yn hyn o beth. Gallwch roi gwybod i Gan Bwyll yn uniongyrchol am eich pryder ynghylch goryrru yn y gymuned, ac fe wnawn nhw ymchwilio i'r mater.

Adrodd pryder cymunedol

Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Heddlu a Gan Bwyll yn gorfodi'r terfyn 20mya yma:

GanBwyll - 20mya