Rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/12/2024

Rydym ni'n gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw dros 26,000 o oleuadau stryd ar draws y sir. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau fod pob eitem o gelfi stryd sydd â golau ynddo h.y. goleuadau stryd ac arwyddion traffig sydd wedi'u goleuo ar y priffyrdd yn aros yn weithredol. Mae'r holl oleuadau stryd a'r arwyddion traffig sydd wedi'u goleuo yn cael eu archwilio a'u glanhau os oes angen adeg gwirio diffygion. 

Newidir y bylbiau diffygiol yn yr unedau pan fo angen a gwneir prawf trydanol manwl bob chwe blynedd, yn unol â Rheoliadau'r Sefydliad Peirianyddion Trydanol.

Rydym yn cwblhau'r holl lwybrau cynnal a chadw yn y sir bob tair wythnos.  Os byddwn yn derbyn unrhyw adroddiadau am ddiffygion, byddwn yn trefnu eu bod yn cael eu hatgyweirio. Yn rhan o'r broses, rydym yn ymchwilio i achos y diffygion cyn pen 15 diwrnod gwaith ar ôl i rywun roi gwybod amdanynt. Bydd atgyweiriadau yn cael eu cynnal o fewn 20 diwrnod gwaith, os na all y diffygion gael eu hatgyweirio ar yr ymweliad cyntaf.

Er mwyn ein helpu ni i ddelio â diffygion, nodwch rif adnabod y polyn golau neu'r arwydd traffig yn ogystal â chyfeiriad yr eiddo gerllaw, gan gynnwys rhif, enw'r stryd ac enw'r dref neu'r pentref.

RHOI GWYBOD AM OLAU STRYD DDIFFYGIOL

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.