Teithio ar y trên

National Rail Yn agor mewn tab newydd

Mae gwefan National Rail yn cael ei ddarparu’n annibynnol ar ran yr holl gwmnïau trenau ac arni gallwch gynllunio’ch teithiau; darllen y 'Byrddau Ymadael Byw', sef byrddau ymadael pob un o orsafoedd National Rail yn y wlad; gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau; Cyfeiriadur o Gwmnïau Trenau; cynigion arbennig a gwybodaeth ddefnyddiol arall am drenau.

Trafnidiaeth Cymru Yn agor mewn tab newydd

Mae gwefan Trafnidiaeth Cymru “…yn llawn gwybodaeth am docynnau ac amserlenni – ynghyd â llu o awgrymiadau i wneud eich taith yn fwy pleserus". Ar y safle mae gwybodaeth am deithiau gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal â gwybodaeth am amserlenni a chyfle i brynu tocynnau ar y we.

Great Western Railway Yn agor mewn tab newydd

Great Western Railway sy’n darparu’r gwasanaeth Intercity rhwng Abertawe a Chaerfyrddin ac Abergwaun.  

Rheilffordd Calon Cymru Yn agor mewn tab newydd

Defnyddiwch y wefan hon i ganfod hud Calon Cymru.  Yma cewch wybodaeth am Reilffordd Calon Cymru a sut i deithio ar y trên bach a chael cyfle i ymlacio wrth iddo fynd â chi drwy ffresni cefn gwlad a’i afonydd croyw. Ar y wefan mae gwybodaeth am y rheilffordd, newyddion, cyfle i chi chwilio am lety, ‘taith dywys’ ar hyd y lein a llawer mwy.

Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru  Yn agor mewn tab newydd

Ffurfiwyd y grŵp hwn yn 1981 i gefnogi Rheilffordd Calon Cymru er mwyn ceisio hybu mwy o ddefnydd o’r rheilffordd a bod yn un llais ar gyfer pob un sydd am weld y rheilffordd werthfawr hon yn cael ei chadw. Mae pobl o bob rhan o Brydain a thu hwnt yn aelodau o’r gymdeithas. Maen nhw’n rhoi cyhoeddusrwydd iddi drwy daflenni a hysbysebu a thrwy werthu nwyddau hyrwyddo ac maent yn annog ac yn trefnu gweithgareddau sy’n debygol o ddenu pobl i ddefnyddio’r lein.  Ar y wefan cewch wybodaeth am y gymdeithas a sut i ymaelodi â hi, a manylion am y rheilffordd, teithiau cerdded, a llefydd i ymweld â nhw.

Pas Archwilio Cymru Yn agor mewn tab newydd

Un tocyn, milltiroedd diderfyn. Mae Pas Archwilio Cymru yn fargen deithio na allwch fod hebddi, sy’n cynnig mynediad diderfyn (ar ôl 9am ar ddyddiau’r wythnos) i holl wasanaethau trên prif linell Cymru ac i bron bob gwasanaeth bws. Ac nid dyna’r cyfan - cewch hefyd nifer o fuddion rhyfeddol eraill, gan gynnwys mynediad 'dau am un’ neu fynediad gostyngol i lawer o brif atyniadau ymwelwyr Cymru. Mae’r cardiau sydd ar gael yn cynnwys cerdyn Cymru gyfan a chardiau rhanbarthol yn amrywio o bedwar i wyth niwrnod. Gellir prynu tocynnau yn y rhan fwyaf o orsafoedd rheilffordd wedi’u staffio a chan Asiantiaid Teithio ‘National Rail’ ledled gwledydd Prydain neu trwy ffonio 0870 9000 773. Nid yw tocynnau ar gael ar-lein.

Cymru Connect

Mae hon yn ffordd arall o gyfuno teithio ar drenau a bysiau trwy un trafodiad yn unig. Mae Cymru Connect yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu y cewch deithio i unrhyw le yng Nghymru trwy un tocyn trên yn unig, gan ddefnyddio cyfuniad o wasanaethau trên a bws. Defnyddiwch Cymru Connect os ydych angen mynd i rywle nad yw ar y rhwydwaith rheilffordd, neu os hoffech wneud taith fyrrach trwy gyfuno teithio ar drên a bws yn hytrach na gwneud taith reilffordd hir ar draws gwlad. Mae’n gost effeithiol hefyd. Gellir prynu tocynnau mewn unrhyw orsaf reilffordd yng ngwledydd Prydain. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i:

Network Rail Yn agor mewn tab newydd

Cwmni peirianneg yw Network Rail a ffurfiwyd i adfywio rheilffyrdd Prydain.  Nhw sy’n cynnal, gwella ac yn uwchraddio pob agwedd ar y seilwaith reilffyrdd gan gynnwys y trac, y systemau signalau, twnelau, y croesfannau, y gorsafoedd etc.  Nid ydynt yn darparu gwasanaethau trên; eu prif gwsmeriaid sef y cwmnïau trên a chludo nwyddau sy’n gwneud hynny. Ar eu gwefan mae gwybodaeth am y cwmni, y gwaith peirianneg a phrosiectau, rheoli’r seilwaith, cyfrifoldeb corfforaethol ac ati.