Byddwch yn weithiwr cymdeithasol

yn Sir Gâr

Helo, rydym yn falch iawn eich bod wedi dangos diddordeb mewn bod yn weithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin...

 

 

Yma gallwch ddysgu mwy am y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael, sut beth yw byw yn ein sir anhygoel a sut y gallwn eich helpu i ddygymod â'r symud.

Caru lle rydych chi'n byw ac yn gweithio, dewiswch Sir Gâr.

Cymerwch y cam cyntaf a dewch draw i sesiwn wybodaeth ar-lein lle gallwch ddysgu mwy am fyw a gweithio yn Sir Gaerfyrddin, cwrdd ag Arweinwyr yn ein timau gwaith cymdeithasol a gofyn cwestiynau mewn lleoliad anffurfiol.

Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cymwys i ymuno â'n timau gwasanaethau oedolion, plant ac integredig.

Bod yn weithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin

Mae bod yn weithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn golygu ymuno â gwasanaeth gyda sylfeini cryf, tîm rheoli sefydlog a gweithlu ymroddedig.

Rydym yn angerddol am gefnogi pobl, gan sicrhau bod gan ein gweithwyr cymdeithasol y gefnogaeth i fod lle mae eu hangen fwyaf.

Rydym yn un o'r ychydig awdurdodau lleol sydd wedi lleihau'n gyson nifer y plant sy'n derbyn gofal yn eu hardal. Rydym wedi gwneud hyn drwy arloesi yn ein timau gwaith cymdeithasol a buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol yn ogystal â gweithio i rymuso a chefnogi teuluoedd.

Mae cymorth wedi'i dargedu, gweithio hyblyg a pholisïau eraill ar waith i'ch helpu i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac i ffynnu fel gweithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.

Cyflog – hyd at £44,428
Timau bach, sydd wedi'u cefnogi'n dda
Cyfleoedd datblygu gyrfa

Dewch i ddysgu mwy am gyflog, buddion a ffordd o fyw yn Sir Gaerfyrddin mewn sesiwn wybodaeth ar-lein.

Edrychwch ar y swyddi gweithiwr cymdeithasol sydd ar gael 

Lle amrywiol i fyw a gweithio

Gyda threfi prysur, tirweddau gwledig, bywyd nos bywiog, gweithgareddau cyffrous ac arfordir syfrdanol, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig rhywbeth i bawb ac mae'n lle perffaith i fyw a gweithio.

 


Ardal â'r gyfradd isaf o droseddau

Ym mis Medi 2023 fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gofnodi'r gyfradd isaf o droseddau yng Nghymru.


Ysgolion Ardderchog

Rydym yn cynnal 1 ysgol feithrin, 94 ysgol gynradd, 12 ysgol uwchradd ac 1 ysgol arbennig yn Sir Gâr. Maent yn darparu addysg i dros 27,000 o ddisgyblion.


Prisiau Tai

£194,000 yw cyfartaledd prisiau tai'r sir


Prifysgolion a Cholegau

Sir Gâr yw cartref Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a choleg addysg bellach, Coleg Sir Gâr.

 


Traethau

O Amroth yn y gorllewin i Lanelli yn y dwyrain, mae arfordir Sir Gâr yn ymestyn am 67 milltir.


Lleoedd Hanesyddol

Os mai hanes sy'n mynd â'ch bryd yna mae gan Sir Gâr lawer o gestyll hynafol a thai hanesyddol i'w harchwilio, pob un â'i stori gyfoethog ei hun i'w rhannu.


Ysbytai

Mae gennym ddau ysbyty cyffredinol yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn ogystal â 2 ysbyty cymunedol yn Nyffryn Aman a Llanymddyfri


Diwylliant

Cartref i theatrau a sinemâu, orielau ac amgueddfeydd. Byddwch yn dod o hyd i ddiwylliant sy'n ffynnu.


Buddiannau gweithwyr

Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.


Gweithio i ni

Gwybodaeth am sut beth yw gweithio gyda ni a'r ffordd o fyw y gallwch ei mwynhau yn Sir Gaerfyrddin.


Cwestiynau Cyffredin

Yma cewch yr atebion i unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am y broses ymgeisio.


Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd

Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni ac yn diffinio pwy ydym ni fel sefydliad ac fel cyflogwr.

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein swyddi gwag, cofrestrwch ar gyfer ein llythyrau newyddion.

Cofrestru

Hwb