Connor
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/02/2025
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn i chi ymgeisio?
Fy unig brofiad gwaith blaenorol oedd mewn siop gyfleustra fach y bûm yn gweithio ynddi tra oeddwn yn astudio ar gyfer fy Lefel A.
Pam wnaethoch chi ymgeisio?
Fe wnes i gais am fy swydd brentisiaeth bresennol oherwydd roeddwn i eisiau ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn amgylchedd gwahanol ac adeiladu fy sgiliau sylfaen mewn busnes.
Ym mha dîm rydych yn gweithio?
Mae fy rôl o fewn y cyngor yn un ranbarthol sy'n cwmpasu De-orllewin Cymru, lle rwyf yn ymwneud â chasglu data, adrodd a mewnwelediad ar gyfer y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol.
Amlinelliad o'r hyn y mae eich swydd yn ei olygu.
Rwyf wedi cael fy nghyflwyno i weithio gyda data a defnyddio data i ddod i benderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rwy'n dal i fod yn newydd iawn i’r broses hon ac mae gennyf lawer mwy i'w ddysgu, ond hyd yn hyn rwy'n mwynhau gweithio gyda data a deall ei le hollbwysig mewn busnes.
Sut ydych chi'n ymdopi â'r cymhwyster Gweinyddu Busnes?
Mae fy aseswyr a rheolwyr llinell wedi bod o gymorth mawr ac yn gefnogol iawn yn fy nghynnydd dysgu, ac rwy'n teimlo bod gen i rwydwaith cymorth da o'm cwmpas i sicrhau llwyddiant yn fy mhrentisiaeth.