Data a Grantiau
Edrych i ddatblygu sgiliau ymarferol wrth wneud effaith wirioneddol?
Mae ein tîm yn cynnig cyfle i ymgeiswyr gael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o feysydd allweddol:

Bydd Neuadd y Sir ar gau i'r holl staff swyddfa ar 28 Tachwedd a 5 Rhagfyr, er mwyn cynnal profion ar y larwm tân a gwneud gwaith trydanol hanfodol.
Ewch i weld tîm gwasanaeth cwsmeriaid Hwb y Cyngor yn Uned 22, Rhodfa Santes Catrin, SA31 1GA os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu ffoniwch 01267 234567.

Gweithio gyda setiau data go iawn i droi rhifau’n fewnwelediadau. Byddwch yn helpu i gasglu, dehongli, a chyflwyno data drwy perfformiad metrig, dangosfyrddau perfformiad, ac offer delweddau data sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau callach.
Byddwch yn rhan o’r broses sy’n gyrru gwelliant. Byddwch yn ennill profiad o fonitro a gwerthuso darpariaeth gwasanaethau, canfod cyfleoedd i dyfu, a chyfrannu at adolygiadau perfformiad ac adroddiadau.
Cymryd rhan ym myd cyllid. O gefnogi prosesau ymgeisio a gwiriadau cydymffurfio i fonitro effaith, byddwch yn chwarae rhan wrth sicrhau bod grantiau’n arwain at canlyniadau ystyrlon.
Mae hwn yn gyfle gwych i mireinio’ch sgiliau, archwilio meysydd gwaith gwahanol, a chyfrannu at brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth.
