Diwydiannau Creadigol – Lleoliad Profiad Gwaith

Camwch i fyd cyflym y celfyddydau a perfformiadau byw! Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad deinamig ag ymarferol lle nad yw dau ddiwrnod byth yr un fath. 

Byddwch yn rhan o dîm cydweithredol, gan gael mewnwelediad i’r hyn sydd ei angen i gyflwyno perfformiadau a digwyddiadau bythgofiadwy.

Meysydd y gallwch eu harchwilio’n cynnwys:

Beth fyddwch chi'n ei wneud

Meysydd y gallwch eu harchwilio’n cynnwys:

Rheoli Celfyddydau 

Dysgu am gyllidebu, amserlennu, a chynnwys rhanddeiliaid.

Theatr Dechnegol a Rheoli Llwyfan 

Cael profiad ymarferol gydag ymarferion, rhedeg ciwiau, a chefnogaeth y tu ôl i’r llwyfan.

Sain a Golau 

Cynorthwyo gyda gosodiadau, rigio, a datrys problemau yn ystod sioeau byw.

Marchnata a Chyfathrebu 

Helpu i greu ymgyrchoedd, cynnwys cyfryngau cymdeithasol, a deunyddiau hyrwyddo.

Swyddfa Docynnau a Blaen y Tŷ 

Ennill profiad o systemau tocynnau, croesawu gwesteion, a gwella profiadau’r gynulleidfa.

Gall gweithgareddau nodweddiadol gynnwys:

  • Cynorthwyo gydag ymarferion a pherfformiadau byw.
  • Cefnogi timau technegol gyda sain a goleuo.
  • Cyfrannu at ymgyrchoedd marchnata a chyfryngau cymdeithasol.
  • Rheoli gwasanaethau cynulleidfa a gweithrediadau blaen y tŷ.
  • Mynychu cyfarfodydd cynhyrchu a rhannu syniadau.

Mae’r lleoliad hwn yn berffaith i unrhyw un sy’n dymuno adeiladu gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Byddwch yn barod am oriau hyblyg, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau, sy’n adlewyrchu rhythm cyffrous, perfformiadau byw yn y byd go iawn.

Gwneud Cais

Hwb