Dogfennau sydd angen i chi ddod â nhw gyda chi i'ch cyfweliad
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/03/2025
Canllawiau gwirio hunaniaeth gweithwyr - Dogfennau sydd angen i chi ddod â nhw gyda chi i'ch cyfweliad
Os ydych wedi derbyn gwahoddiad i fynychu cyfweliad, bydd angen i chi ddod â dogfennau penodol gyda chi.
Mae'r dogfennau hyn yn ofynnol ar gyfer y dibenion canlynol:
-
Profi eich hunaniaeth, eich cyfeiriad presennol a'ch preswyliaeth
Dylid darparu un eitem o dystiolaeth ffotograffig ynghyd â dwy ddogfen sy'n ymwneud â'ch cyfeiriad, e.e.
*Tystiolaeth Ffotograffig : Trwydded Yrru Llungarden neu Basbort Cyfredol
Tystiolaeth sy'n Ymwneud â'ch Cyfeiriad : Bil Cyfleustodau, Cerdyn Banc/Credyd / Cyfriflen Morgais
-
Profi'ch Hawl i Weithio yn y DU
Mae'r adran hon yn berthnasol i ymgeiswyr allanol yn unig
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith ein bod yn sicrhau bod gan unrhyw un a gyflogwn hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth o'ch cymhwysedd os cynigir rôl i chi a gwirio'r dogfennau yr ydych yn eu darparu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am ba ddogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw gyda chi.
Bydd copïau o'r dogfennau uchod yn cael eu cadw ar eich ffeil bersonol os cewch eich penodi.
-
Profi eich bod yn meddu ar y cymwysterau neu'r cofrestriad perthnasol i gyflawni'r rôl
Mae'n rhaid i bob ymgeisydd ddarparu prawf o'r cymwysterau a'r cofrestriadau a restrir ar eich ffurflen gais. Os na allwch ddarparu'r rhain, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig arnom gan y corff dyfarnu.
Bydd copïau o'r uchod yn cael eu cadw ar eich ffeil bersonol os cewch eich penodi.
-
Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer swyddi gwag sy'n gofyn am archwiliad o gofnod troseddol (a elwir hefyd yn wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Os oes angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl y cewch eich cyfweld amdani, bydd yr hysbyseb, Crynodeb o'r Swydd a'r Fanyleb Person yn nodi hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, ynghyd â rhestr o'r dogfennau derbyniol y mae'n ofynnol i chi ddod â nhw i'r cyfweliad i wirio pwy ydych chi at ddibenion gwiriad DBS, ewch i wefan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os ydych wedi cael gwiriad DBS a’ch bod wedi cofrestru gyda gwasanaeth Diweddaru gan y DBS, ar yr amod bod lefel y gwiriad yn briodol a bod y gwiriad ar gyfer y gweithlu cywir yn cael ei dderbyn, dewch â’ch tystysgrif DBS a’ch gwybodaeth aelodaeth Gwasanaeth Diweddaru gyda chi i gyfweliad a bydd asesiad yn cael ei wneud i weld a oes angen gwiriad newydd arnoch.
Gellir derbyn dogfennau mewn enw blaenorol dim ond mewn achosion lle gall yr ymgeisydd ddarparu dogfennaeth sy'n cefnogi newid diweddar.
Rhagor o wybodaeth
Mae'n rhaid i chi ddod â'r dogfennau gwreiddiol gyda chi ar ddiwrnod eich cyfweliad. Byddant yn cael eu gwirio, eu copïo, eu sganio a'u rhoi ar eich ffeil bersonol os cewch eich penodi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch pa ddogfennau sydd angen i chi ddod â nhw gyda chi, gallwch gysylltu â'r rheolwr recriwtio cyn y cyfweliad.
Mae rhagor o wybodaeth am y defnydd o wybodaeth bersonol ar gael ar gais.
Sylwer:
Os na allwch ddangos tystiolaeth ddigonol i'r panel cyfweld, bydd unrhyw gynnig o ran cyflogaeth yn amodol hyd nes y gellir cadarnhau pwy ydych a bod gennych hawl i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig.